Fel cefnogwyr brwd o bêl-droed yng Nghymru, mae S4C a Sgorio yn croesawu’r cyhoeddiad y bydd cynghrair pêl-droed JD Cymru Premier yn dychwelyd i statws elît fis nesaf.
Er na fydd cefnogwyr yn mynychu’r gemau am gyfnod, rydym yn falch iawn i allu cynnig pecyn cynhwysfawr o bêl-droed rhwng nawr a diwedd y tymor yn y JD Cymru Premier.
Mi fyddwn ni’n dangos gêm fyw bob penwythnos a phecyn uchafbwyntiau bob wythnos ar y teledu, a gwe-ddarllediadau byw rheolaidd o gemau ganol wythnos.
Bydd Sgorio yn ail-gychwyn gyda gwe-ddarllediad o’r gêm rhwng Y Drenewydd a Phen-y-bont, am 8.00yh ar nos Fawrth 2 Mawrth.
Yna ar ddydd Sadwrn 6 Mawrth, fe fydd Sgorio yn dangos y gêm fyw rhwng Y Seintiau Newydd a’r Bala yn fyw ar S4C, am 4.45yh.
Bydd rhaglenni uchafbwyntiau Sgorio yn ail-ddechrau ar nos Lun 8 Mawrth, gyda Sgorio Stwnsh am 5.30yh, ac yna Mwy o Sgorio, am 10.00yh ar nos Fercher 10 Mawrth.
Hefyd fis nesaf, bydd Cymru yn cychwyn eu hymgyrch rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA 2022, ac mi fydd Sgorio yn dilyn y tîm ar hyd bob cam drwy ddarlledu pob gêm o’r ymgyrch yn fyw. Gwyliwch gêm gyntaf Cymru, oddi cartref yn erbyn Gwlad Belg, yn fyw ar S4C, ar nos Fercher 24 Mawrth.
Yn ogystal, mi fydd Sgorio yn cynnig gwasanaeth ar-lein heb-ei-ail, gydag uchafbwyntiau o bob gêm o’r JD Cymru Premier, cyfweliadau ecsgliwsif a newyddion pêl-droed ar gyfryngau cymdeithasol ac ar wefan Sgorio – s4c.cymru/sgorio.
Ar gyfer y diweddaraf o bêl-droed Cymru, dilynwch @sgorio ac @s4cchwaraeon ar Twitter, Facebook ac Instagram.
Rydym yn edrych ymlaen yn arw at ail-ddechrau’r tymor.