Mae’r Seintiau Newydd wedi colli eu hachos llys yn erbyn Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Roedd yr Uchel Lys o’r farn bod penderfyniad CBDC i gwtogi’r tymor oherwydd pandemig Covid-19 yn un teg.
Ar fore Llun 13 Gorffennaf cyhoeddodd y Gymdeithas Bêl-droed mewn datganiad eu bod yn ‘croesawu penderfyniad cadarnhaol’ yr uchel lys ynglŷn â’r achos gafodd ei ddwyn yn eu herbyn gan Y Seintiau Newydd yn sgil cwtogi tymor 2019/20 cynghrair Cymru Premier oherwydd pandemig Covid-19.
Roedd Y Seintiau wedi cymryd camau cyfreithiol wedi i Gei Connah cael eu coroni’n bencampwyr ym mis Mai, gan ddadlau nad oedd ‘resymeg tu ôl i ddewis pencampwyr ar sail fathemategol’
‘Mae CBDC yn falch o’r dyfarniad heddiw ac o’r gydnabyddiaeth fod Bwrdd Cyfarwyddwyr CBDC wedi gweithredu’n briodol yn y cyfnod digynsail hwn er mwyn gwarchod buddion pêl-droed yng Nghymru.’