S4C

Navigation

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn hynod falch o gyhoeddi Gemma Grainger fel Rheolwr
Tîm Cenedlaethol Merched Cymru ar gytundeb 4 blynedd.

Fe weithiodd Grainger i’r FA yn Lloegr am 11 mlynedd fel rheolwr i’r timau canolradd merched o
wahannol oedrannau rhwng Dan 15 a Dan 23 oed. Mae Grainger wedi rheoli dros 90 gêm ryngwladol
ac roedd hi’n rhan o’r tîm hyfforddi pan wnaeth Lloegr gyrraedd y rownd gynderfynol ym
Mhencampwriaeth EURO Merched UEFA yn 2017.

Dywedodd Grainger: “Rwy’n hynod falch o gael fy nghyhoeddi fel Rheolwr Tîm Cenedlaethol
Merched Cymru a’r sialens sydd o’m blaen. Rwyf wedi paratoi trwy gydol fy ngyrfa i reoli tîm
cenedlaethol i brif bencampwriaeth ryngwladol. Mae’n amser hynod gyffrous i bawb ac rwy’n edrych
ymlaen at weithio gyda’r staff a chwaraewyr, gyda’r nod o gyrraedd y lefel nesaf. Mae’n gyfle i mi a’r
chwaraewyr i ysgrifennu pennod newydd ac i adeiladu ar y stori o bêl-droed merched yng Nghymru.”

Fe wnaeth Pennaeth Pêl-droed Merched CBDC, Lowri Roberts, groesawu’r penodiad: “Rydym ni wedi
tyfu’r gêm merched yng Nghymru dros y blynyddoedd ac fe fydd Gemma yn parhau’r broses hynny.
Mae’n dda gweld ymrwymiad y Gymdeithas i gêm y merched a rhoi’r cyfle gorau i gyrraedd prif
bencampwriaeth am y tro cyntaf. Fe fydd hynny yn rhan fawr o’n nod i dyfu’r gêm yng Nghymru.
Rwy’n edrych ymlaen.”

Bydd Grainger yn rheoli’r tîm am y tro cyntaf yn erbyn Canada (9 Ebrill) a Denmarc (13 Ebrill) fis
nesaf.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?