S4C

Navigation

Neco Williams yn sgorio ei gôl gyntaf yn ei gêm gyntaf gartref dros Gymru wrth i dîm Ryan Giggs guro Bwlgaria 1-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Mae Cymru wedi casglu chwephwynt o’u dwy gêm agoriadol yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA.

Llwyddodd Neco Williams i sgorio yn amser ychwanegol i sicrhau’r fuddugoliaeth i Gymru dros Bwlgaria. Dyma gôl gyntaf amddiffynnwr Lerwpl dros ei wlad yn ei gêm gyntaf gartref,

Mae tîm Ryan Giggs wedi ennill eu dwy gêm agoriadol yng Nghynghrair y Cenhedloedd ac yn eistedd ar frig y grŵp ar ôl curo’r Ffindir 0-1 a Bwlgaria 1-0.

Prin iawn oedd y cyfleoedd drwy’r gêm, gyda hi’n edrych fel gêm ddi-sgôr tan i’r eilydd Neco Williams rwydo yn y munudau olaf.

Mae Cymru yn ddiguro mewn wyth gêm gan guro eu pedair gêm ddiwethaf heb ildio gôl, record sy’n estyn nôl i haf 2019.

Bydd Cymru yn wynebu Lloegr mewn gem gyfeillgar ar y 8fed o Hydref, cyn ail ddechrau eu hymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon oddi cartref ar 11 Hydref.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?