S4C

Navigation

Roedd hi’n wythnos anodd i’r Seintiau Newydd a Chaernarfon, gyda’r ddau dîm yn colli’n drwm yng nghymal cyntaf ail rownd ragbrofol Ewrop. 

Collodd Y Seintiau Newydd o 5-0 yn Budapest yn erbyn pencampwyr Hwngari, Ferencváros nos Fawrth, cyn i Gaernarfon deithio i Wlad Pwyl a cholli 6-0 yn erbyn Legia Warszawa nos Iau. 

 

Y Seintiau Newydd (0) v (5) Ferencváros | Nos Fawrth, 30 Gorffennaf – 19:00  

(Neuadd y Parc, Croesoswallt – Ail Gymal Ail Rownd Ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr 2024/25) 

Ar ôl buddugoliaeth o 4-1 dros ddau gymal yn erbyn pencampwyr Montenegro, FK Dečić yn y rownd ddiwethaf, roedd Y Seintiau Newydd yn llawn hyder yn teithio i Budapest, ond yn fuan iawn fe ddysgodd pencampwyr Cymru eu bod yn wynebu gwrthynebwyr ar lefel tipyn uwch. 

Ferencváros o Budapest yw clwb mwyaf llwyddiannus holl hanes Hwngari gyda 35 pencampwriaeth i’w henw, gan ennill chwech o rheiny yn olynol ers 2018. 

Mae’r clwb yn llawn chwaraewyr rhyngwladol ac roedd y Hwngariaid yn ffefrynnau clir ar ôl cyrraedd rownd 16 olaf Cynghrair Europa y tymor diwethaf ble gollon nhw yn erbyn Bayer Leverkusen ar ôl gorffen ar frig y grŵp oedd yn cynnwys Trabzonspor, Monaco a Red Star Belgrade. 

Fe gymrodd hi lai na chwarter awr i asgellwr Ferencváros, Adama Traoré roi’r tîm cartref ar y blaen nos Fawrth, a phum munud yn ddiweddarach, roedd y gŵr sydd â 59 o gapiau i dîm rhyngwladol Mali wedi rhwydo am yr eildro. 

Roedd hi’n dair cyn yr egwyl diolch i gôl Kristoffer Zachariassen o Norwy, cyn i Adama Traoré gwblhau ei hatric yn gynnar yn yr ail hanner. 

Sgoriodd y Brasiliad, Marquinhos y bumed o’r smotyn sy’n golygu ei bod hi am fod yn dasg anferthol i’r Seintiau yn yr ail gymal yn Neuadd y Parc. 

Bydd Craig Harrison yn falch fod ei dîm wedi creu ambell i fflach addawol, gyda Jordan Williams yn taro’r trawst o bellter, a Declan McManus yn methu cyfle euraidd yn hwyr yn y gêm.  

Ond mae’n edrych yn debygol mae Ferencváros fydd yn camu ymlaen, ac y bydd y Seintiau’n syrthio i drydedd rownd ragbrofol Cynghrair Europa, ac hyd yn oed pe bae nhw’n colli honno, yna byddai rownd arall i’w chwarae yng ngêm ail gyfle Cyngres UEFA. 

Ers 1996 mae’r Seintiau Newydd wedi chwarae 81 o gemau yn Ewrop gan ennill 18 o rheiny (22%), ac mewn 41 rownd Ewropeaidd mae’r clwb wedi camu ymlaen ar 10 achlysur (24%). 

Daeth eu rhediad gorau yn nhymor 2010/11 – er ennill dim ond un rownd y tymor hwnnw (yn erbyn Bohemians yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr), cyn colli yn erbyn Anderlecht, fe gafodd y Seintiau chwarae mewn gêm ail gyfle i gyrraedd Cynghrair Europa. 

Ond ar ôl colli 5-2 dros ddau gymal yn erbyn CSKA Sofia mae’r Seintiau’n parhau i freuddwydio am gael cyrraedd rownd y grwpiau. 

Bydd enillwyr y rownd hon yn wynebu unai UE Santa Coloma (Andorra) neu FC Midtjylland (Denmarc) yn y drydedd rownd ragbrofol, tra bydd y collwyr yn syrthio i Gynghrair Europa i herio unai APOEL (Cyprus) neu FC Petrocub Hîncești (Moldofa). 

Caernarfon (0) v (6) Legia Warszaw | Nos Iau, 1 Awst – 18:00 

(Nantporth, Bangor – Ail Gymal Ail Rownd Ragbrofol Cyngres UEFA 2024/25) 

Ar ôl cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes, mae’n ymddangos fel bod y freuddwyd ar fin dod i ben i glwb pêl-droed Caernarfon. 

Roedd hi’n fuddugoliaeth fythgofiadwy yn erbyn Crusaders o Belfast yn y rownd ragbrofol gyntaf, ond roedd clwb o safon Legia Warszaw wastad am fod yn wrthwynebwyr caled i’r Cofis. 

Legia Warszaw yw clwb mwyaf llwyddiannus holl hanes Gwlad Pwyl, ac mae eu torf yn adnabyddus fel rhai angerddol a thanllyd. 

Mae’r clwb o brif ddinas Gwlad Pwyl wedi chwarae dros 250 o gemau’n Ewrop gan gyrraedd rownd y grwpiau ar saith achlysur ers 2011, a churo timau fel Aston Villa, Leicester City, Sporting Lisbon a Celtic yn ddiweddar. 

Er hynny, fe ddechreuodd Caernarfon yn gadarn nos Iau yn stadiwm gwag y Stadion Wojska Polskiego, gyda’r dorf wedi eu gwahardd o’r gêm oherwydd trafferthion diweddar. 

Ac yn yr 20 munud agoriadol fe allai’r Cofis fod wedi mynd ar y blaen gyda Daniel Gosset, Zack Clarke a Darren Thomas i gyd yn methu’r targed gydag ymdrechion o safloedd da. 

Daeth y gôl agoriadol i Legia o gic gornel wedi 22 munud gyda’r Sbaenwr, Marc Gual yn gwasgu peniad heibio’r golwr ar y postyn pellaf, ac er i Stephen McMullan gael llaw at y bêl roedd y llimanwr yn grediniol fod y bêl wedi croesi’r linell.  

Parhaodd y Cofis y frwydro ond funud cyn yr egwyl, fe fethodd McMullan a delio gyda chroesiad syml, ac ar ôl gollwng y bêl fe ddisgynnodd hi’n boenus dros y linell, a Chaernarfon methu credu sut eu bod yn colli 2-0 ar yr egwyl. 

Gyda cynffonnau’r Caneris i lawr fe fanteisiodd Legia Warsawa a sgoriodd Marc Gual ddwy gôl gynnar yn yr ail hanner i gwblhau ei hatric. 

Ar ôl methu cic o’r smotyn hanner ffordd trwy’r ail hanner, fe lwyddodd blaenwr Slofenia, Blaž Kramer i wneud yn iawn am ei gam dri munud yn ddiwddarach gan droi’n hyfryd sgorio’r bumed i Legia. 

Ond yr olaf oedd yr orau i Legia Warszawa, yn eiliadau ola’r gêm wrth i Claude Gonçalves grymanu ergyd odidog o du allan i cwrt i gornel ucha’r rhwyd a’i gwneud hi’n 6-0 ym mhrif ddinas Gwlad Pwyl. 

Roedd y rhwystredigaeth yn amlwg yn sylwadau y rheolwr Richard Davies wedi’r gêm, oedd yn cyfaddau nad oedd y canlyniad yn sioc, ond fod ei chwaraewyr wedi haeddu mwy yn dilyn eu perfformiad, ac mae camgymeriadau gwirion oedd wedi profi’n gostus yn y pen draw. 

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae ar nos Iau, 1 Awst gyda’r enillwyr yn camu ymlaen i wynebu unai Brøndby IF (Denmarc) neur KF Llapi 1932 (Cosofo) yn nhrydedd rownd ragbrofol Cyngres UEFA. 

 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?