Sgorio i ddarlledu’r gêm gyfeillgar ryngwladol rhwng Cymru ‘C’ a Lloegr ‘C’ ar nos Fawrth 21 Mawrth, gyda’r gic gyntaf am 7.45.
Bydd Cymru yn teithio i Stadiwm J.Davidson, Altrincham i wynebu tîm Paul Fairclough ar ôl i Gymru ennill 4-0 ar Yr Oval, Caernarfon yn 2022, gyda Will Evans yn sgorio dwy ac Aeron Edwards yn rhwydo ddwywaith.
Fe fydd Sgorio yn darlledu’r gêm ar YouTube, Facebook ac S4C Clic – gyda’r cyfan ar gael ar-lein ac ar eich teledu clyfar – am 7.30 nos Fawrth 21 Mawrth, gyda’r gic gyntaf am 7.45.
Mae’r Mark Jones, rheolwr Cymru C wedi enwi carfan o 20 chwaraewr o 10 clwb o’r Cymru Premier: