Yn dilyn gêm ddi-sgôr rhwng Y Bala a’r Seintiau Newydd nos Fercher, mae’r ddau dîm yn parhau yn ddi-guro’n y gynghrair, a dim ond triphwynt sy’n gwahanu’r pump uchaf yn y tabl.
Nos Wener, 15 Medi
Bae Colwyn v Aberystwyth | Nos Wener – 19:45 (Arlein)
Ar ôl buddugoliaeth arbennig ac annisgwyl oddi cartref ym Mhen-y-bont y penwythnos diwethaf, bydd Bae Colwyn yn anelu am driphwynt arall nos Wener.
Sgoriodd Alex Downes unig gôl y gêm yn Stadiwm Gwydr SDM ddydd Sadwrn wrth i Fae Colwyn sicrhau eu triphwynt cyntaf erioed yn y Cymru Premier JD.
Aberystwyth sydd ar waelod y domen ar ôl colli pump o’u chwe gêm gynghrair, gyda’u hunig bwynt hyd yma yn dod wedi gêm ddi-sgôr yn Y Drenewydd.
Hon fydd y gêm gyntaf rhwng y clybiau, a bydd Aberystwyth yn gobeithio ennill gêm gynghrair oddi cartref am y tro cyntaf ers mis Mawrth (Cfon 0-1 Aber).
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ✅❌❌❌➖
Aberystwyth: ❌❌❌➖❌
Dydd Sadwrn, 16 Medi
Cei Connah v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 14:30
Yn dilyn eu colled o 6-2 yng nghartre’r pencampwyr ar y penwythnos agoriadol mae Cei Connah wedi ymateb yn gryf gan ennill pedair o’u pum gêm gynghrair ers hynny.
Mae’r ymosodwr Jordan Davies wedi dechrau’r tymor ar dân ers ail-ymuno â’r Nomadiaid, ac yn eistedd ar frig rhestr y sgorwyr gyda chwe gôl mewn chwe gêm hyd yma.
O ran y golwyr, Alex Lang sy’n gosod y safon gyda pum llechen lân mewn chwe gêm i Met Caerdydd gan ildio dim ond dwy gôl gynghrair cyn belled.
Dyw Met Caerdydd ond wedi ennill un o’u 22 gêm gynghrair flaenorol yn erbyn Cei Connah (cyfartal 7, colli 14), ac ers esgyn i’r Cymru Premier JD yn 2016 dyw’r myfyrwyr heb ennill dim un o’u 11 gêm gynghrair oddi cartref yn erbyn y Nomadiaid.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅✅✅❌✅
Met Caerdydd: ✅❌➖✅➖
Pen-y-bont v Caernarfon | Dydd Sadwrn – 14:30
Dechreuodd Pen-y-bont y tymor newydd gyda dwy fuddugoliaeth yn olynol yn erbyn Y Drenewydd a Hwlffordd, ond ers hynny mae pethau wedi mynd yn flêr ym Mryntirion.
Bellach mae tîm Rhys Griffiths ar rediad o bedair gêm heb ennill, ac wedi sgorio dim ond un gôl yn ystod y rhediad hwnnw gan ddod y tîm cyntaf erioed i golli’n erbyn Bae Colwyn yn yr uwch gynghrair.
Mae Caernarfon wedi cael dechrau digon cadarn i’r tymor gyda’r blaenwyr newydd Zack Clarke ac Adam Davies yn sgorio pedair gôl yr un, a Marc Williams yn eistedd ar frig rhestr y creuwyr (4).
Ond dyw’r Caneris ond wedi ennill un o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf yn ne Cymru, ac fe enillodd Pen-y-bont eu dwy gêm yn erbyn Caernarfon y tymor diwethaf gan roi crasfa o 5-1 i’r Cofis yn Stadiwm Gwydr SDM ym mis Ionawr.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ❌❌➖➖✅
Caernarfon: ✅❌➖͏͏͏➖✅
Pontypridd v Y Bala | Dydd Sadwrn – 14:30
Does neb wedi sgorio llai o goliau na Pontypridd y tymor hwn (2 – hafal ag Aberystwyth), ond mae amddiffyn tîm Andrew Stokes wedi bod yn gadarn, gan ildio dim ond tair gôl hyd yma.
Ar ôl colli sawl chwaraewr profiadol dros yr haf roedd nifer yn amau y byddai’r Bala yn stryffaglu eleni, ond dyw Hogiau’r Llyn heb golli hyd yma, ac wedi gêm ddi-sgôr yn erbyn y pencampwyr nos Fercher, dim ond dau bwynt sydd rhyngddyn nhw a’r ceffylau blaen.
Mae’r Bala’n hafal â Met Caerdydd am y record amddiffynnol orau eleni ar ôl ildio dim ond dwy gôl mewn chwe gêm.
Mae’r timau wedi cyfarfod ar bedwar achlysur gyda’r Bala’n ennill deirgwaith ar Faes Tegid, ond Pontypridd yn ennill eu hunig gêm gartref flaenorol yn erbyn criw Colin Caton.
Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ❌✅✅➖❌
Y Bala: ➖✅➖✅➖
Y Drenewydd v Y Barri | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl dechrau’n araf mae’r Drenewydd wedi ennill dwy gêm o’r bron yn erbyn Met Caerdydd a Hwlffordd gan godi o’r gwaelodion i’r 8fed safle.
Dyma’r tro cyntaf i’r Drenewydd ennill dwy gêm yn olynol yn 2023, a bydd Chris Hughes yn gobeithio y bydd y rhediad yn parhau yn eu gemau nesaf yn erbyn Y Barri, Bae Colwyn a Pontypridd.
Mae’r Barri’n un o’r ddau dîm sydd heb ennill dim un o’u chwe gêm agoriadol, a bydd Steve Jenkins yn ysu i gael blasu buddugoliaeth am y tro cyntaf ers ymuno â’r clwb fel rheolwr dros yr haf.
Hydref 2019 oedd y tro diwethaf i’r Barri drechu’r Drenewydd (Dre 2-3 Barr) a dyw’r Robiniaid heb golli mewn chwe gêm yn erbyn y Dreigiau ers hynny (ennill 4, cyfartal 2).
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ✅✅❌➖❌
Y Barri: ❌❌➖➖➖
Y Seintiau Newydd v Hwlffordd | Dydd Sadwrn – 14:30
Y Seintiau Newydd sy’n parhau ar frig y tabl wedi’r gêm ddi-sgôr yn Y Bala, ond yn dilyn ffrwgwd rhwng y chwaraewyr a’r timau hyfforddi bydd Craig Harrison ac Adrian Cieslewicz yn wynebu gwaharddiad ar ôl gweld cardiau coch ar Faes Tegid.
Ac er bod Y Seintiau Newydd yn dal heb golli, dyma eu dechrau gwaethaf wedi chwe gêm gynghrair ers tymor 2019/20.
Cafodd Hwlffordd haf i’w gofio gan guro Shkendija ar giciau o’r smotyn i ennill rownd Ewropeaidd am y tro cyntaf yn eu hanes, ond ers y fuddugoliaeth honno yn Stadiwm Dinas Caerdydd dyw’r Adar Gleision ond wedi ennill un gêm allan o naw, gan golli o 4-0 gartref yn erbyn Y Drenewydd ddydd Sadwrn, sef eu colled gyntaf gartref yn y gynghrair ers Hydref 2022.
Mae’r Seintiau wedi ennill 12 o’u 13 gêm ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd, ac ond wedi colli un o’u 24 gêm ddiwethaf yn erbyn yr Adar Gleision, felly fe allai fod yn brynhawn caled i Tony Pennock a’r tîm.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ➖✅✅➖✅
Hwlffordd: ❌✅➖➖❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:35.