S4C

Navigation

Wedi 10 rownd o gemau mae’r tabl wedi dechrau cymryd ei siâp gyda’r Seintiau Newydd yn arwain ar y copa, a’r newydd-ddyfodiaid, Airbus UK a Pontypridd yn eistedd ar waelod y gynghrair.

Y tu ôl i’r pencampwyr mae Cei Connah (2il) a Pen-y-bont (3ydd) yn cystadlu am le’n Ewrop a bydd y ddau dîm yn cyfarfod mewn gêm allweddol yn Stadiwm Gwydr SDM ddydd Sadwrn.

Ac ar waelod y gynghrair bydd Jamie Reed yn cymryd yr awennau am y tro cyntaf ers cael ei benodi fel rheolwr newydd Airbus UK gyda’r clwb yn gwneud y daith fer i Gae-y-Castell nos Sadwrn.

Nos Wener, 21 Hydref

Caernarfon (5ed) v Aberystwyth (8fed) | Nos Wener – 19:45

Mae Caernarfon wedi cael dechrau digon boddhaol i’r tymor, ac ar ôl curo’r Fflint y penwythnos diwethaf mae tîm Huw Griffiths yn y 5ed safle gyda gêm wrth gefn.

Roedd hi’n fuddugoliaeth anferthol i Aberystwyth yn erbyn Hwlffordd nos Wener gyda’r Gwyrdd a’r Duon yn camu i’r 8fed safle, dim ond triphwynt y tu ôl i Gaernarfon.

Dyw Caernarfon nac Aberystwyth heb gael gêm gyfartal yn y gynghrair y tymor yma, a dyw’r clwb o Geredigion heb gadw llechen lân yn eu 10 gêm hyd yma.

Tydi’r Cofis ond wedi colli un o’u naw gêm ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth (ennill 5, cyfartal 3), ac ar ôl ennill saith o’u wyth gêm gartref ddiwethaf yn y gynghrair bydd Caernarfon yn hynod o hyderus ar yr Oval nos Wener.

Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ✅❌❌✅✅
Aberystwyth: ✅❌✅❌✅

 

Dydd Sadwrn, 22 Hydref

Hwlffordd (9fed) v Y Bala (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30

Gyda dim ond un buddugoliaeth yn eu naw gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth mae’r hwyliau’n isel yng nghamp Hwlffordd.

Roedd yr Adar Gleision ar frig y gynghrair wedi’r dair gêm agoriadol, ond ers hynny mae Hwlffordd wedi colli pump o’u saith gêm gynghrair a cholli yn erbyn timau o’r adrannau îs yng Nghwpan Nathaniel MG ac yng Nghwpan Cymru.

Mae’r Bala ar y llaw arall wedi sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Gresffordd nos Fawrth (Bala 4-0 Gres).

Honno oedd chweched buddugoliaeth Y Bala mewn saith gêm gyda’r unig golled yn dod yn erbyn Y Seintiau Newydd y penwythnos diwethaf.

Mae’r ddwy gêm ddiwethaf rhwng y timau yma wedi gorffen yn gyfartal, ond dyw’r Bala erioed wedi colli oddi cartref ar Ddôl-y-Bont (ennill 5, cyfartal 3).

Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ❌❌✅➖❌
Y Bala: ❌✅✅✅➖

Pen-y-bont (3ydd) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30

Bydd hi’n gêm gystadleuol ym Mryntirion ddydd Sadwrn gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r ddau glwb fethodd a chyrraedd Ewrop y tymor diwethaf, ond sy’n benderfynol o wneud hynny eleni.

Sicrhaodd Cei Connah eu lle yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG nos Fawrth gyda buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Rhuthun.

Mae’r Nomadiaid bellach wedi ennill saith gêm yn olynol gan ildio dim ond un gôl yn ystod y rhediad hwnnw wrth ddringo i’r ail safle.

Er hynny, yn rhyfeddol, dim ond y ddau glwb isa’n y tabl sydd wedi sgorio llai o goliau na thîm Neil Gibson yn y gynghrair y tymor yma (12 gôl mewn 10 gêm).

Bydd hi’n dalcen caled i Ben-y-bont sydd ond wedi sgorio unwaith yn eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Cei Connah, ac sydd erioed wedi ennill gartref yn erbyn y Nomadiaid (cyfartal 3, colli 1).

Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ✅➖➖✅✅

Cei Connah: ✅✅✅✅❌

Y Drenewydd (10fed) v Met Caerdydd (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Wedi dechrau digon siomedig i’r tymor bydd Chris Hughes yn gobeithio bod Y Drenewydd wedi troi’r gornel gyda’r Robiniaid wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf gan sgorio 12 o goliau.

Dyw’r Drenewydd ond wedi ennill un o’u pum gêm ar Barc Latham y tymor yma (Dre 2-1 Cfon), a bydd angen gwella’r record hwnnw os yw cochion y canolbarth am anelu am Ewrop eto eleni.

Mae Met Caerdydd wedi colli gafael ar y ceffylau blaen ar ôl colli pedair o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf gan fethu a sgorio yn y bedair gêm honno.

Ond roedd ‘na reswm i’r myfyrwyr gael dathlu nos Fercher wrth i dîm Ryan Jenkins guro Rhydaman a selio eu lle yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG am y pedwerydd tro mewn pum cynnig.

Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ✅❌❌➖❌

Met Caerdydd: ❌✅❌❌❌

Y Seintiau Newydd (1af) v Pontypridd (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae’r Seintiau Newydd yn dechrau’r penwythnos bedwar pwynt yn glir ar frig y tabl gyda gêm wrth gefn, ac er ei bod hi ond yn fis Hydref mae’n deg dweud ei bod hi’n anodd gweld unrhyw un yn dal y pencampwyr cyn diwedd y tymor.

Ers eu gêm ddi-sgôr yn erbyn Y Drenewydd ar y penwythnos agoriadol mae’r Seintiau wedi ennill wyth gêm gynghrair yn olynol, ac mae tîm Craig Harrison wedi codi gêr yn ystod y mis diwethaf gan sgorio 22 o goliau mewn pedair gêm (Met 0-7 YSN, YSN 6-2 Fflint, YSN 4-1 Dre, Bala 0-5 YSN).

Mae’n dynn eithriadol yn hanner isa’r tabl gyda dim ond dau bwynt yn gwahanu Pontypridd (11eg) a’r Fflint (7fed), felly bydd Andrew Stokes ddim yn digalonni’n ormodol gyda safle ei dîm yn eu tymor cyntaf yn yr uwch gynghrair.

Does neb wedi sgorio llai o goliau na Phontypridd y tymor hwn (8), sef un yn llai na chyfanswm prif sgoriwr Y Seintiau Newydd a’r gynghrair, Declan McManus (9).

Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Pontypridd: ❌✅➖❌✅

 

Y Fflint (7fed) v Airbus UK (12fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C arlein)

Mae Airbus UK wedi penodi Jamie Reed, 35 oed, fel eu rheolwr newydd dim ond diwrnod wedi i’r blaenwr ymddeol fel chwaraewr gyda’i glwb diweddaraf, Witton Albion.

Wedi llond llaw o gemau i Wrecsam gwnaeth Jamie Reed ei enw fel un o flaenwyr peryclaf Uwch Gynghrair Cymru pan chwaraeodd i Fangor am y tro cyntaf rhwng 2009-11 gan sgorio 42 o goliau mewn 52 gêm gynghrair.

Chwaraeodd Reed i saith o glybiau Uwch Gynghrair Cymru yn ystod gyrfa lewyrchus ond nawr mae ganddo her aruthrol o’i flaen i geisio achub Airbus UK rhag y cwymp.

Ar ôl derbyn triphwynt o gosb am chwarae chwaraewr anghymwys yn gynharach yn y tymor mae Airbus bellach ar -2 o bwyntiau, 13 pwynt tu ôl i ddiogelwch y 10fed safle gyda mynydd i’w ddringo os am osgoi syrthio’n syth yn ôl i Gynghrair y Gogledd.

Yn ei gêm gyntaf wrth y llyw bydd Jamie Reed yn gobeithio manteisio ar rediad gwael diweddar Y Fflint gan nad yw tîm Lee Fowler wedi ennill mewn chwe gêm gynghrair ers curo Airbus ‘nôl ym mis Awst.

 

Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌➖❌➖➖
Airbus UK: ❌❌❌➖❌

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:30.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?