Eleni, bydd enillwyr gemau ail gyfle Cymru Premier JD yn sicrhau eu lle yng Nghwpan Her yr Alban ar gyfer tymor 2022/23.
Mae’r Seintiau Newydd eisoes wedi sicrhau eu lle yng Nghwpan Her yr Alban drwy ennill y bencampwriaeth.
Y wobr arferol am ennill y gemau ail gyfle yw cael lle yng nghystadlaethau Ewrop, ond mae Cymru wedi colli un o’u safleoedd Ewropeaidd yn dilyn canlyniadau siomedig dros y tymhorau diwethaf.
Mae’n bur debygol y bydd Cymru yn adennill y pedwerydd safle yn Ewrop ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Y Fflint (5ed) v Pen-y-bont (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl colli 3-2 yn erbyn Y Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD y penwythnos diwethaf mae Pen-y-bont wedi methu’r cyfle i gyrraedd Ewrop eleni.
Ond fe all Pen-y-bont sicrhau lle yng Nghwpan Her yr Alban trwy’r gemau ail gyfle, fyddai’n gysur i Rhys Griffiths wedi tymor o ganlyniadau cymysglyd.
Y Fflint fydd yn sefyll yn eu ffordd, clwb sydd wedi ennill tair o’u pedair gêm gynghrair yn erbyn Pen-y-bont y tymor hwn, gyda’r gêm arall yn gorffen yn gyfartal.
Mae hynny’n golygu bod 10 o’r 42 o bwyntiau gasglodd Y Fflint y tymor yma wedi eu hennill yn erbyn Pen-y-bont (24%).
Mae’r Fflint wedi cael wythnos o seibiant ar ôl eu gem gyfartal yn erbyn Y Drenewydd, tra bydd Pen-y-bont yn teithio i Gae-y-Castell yn dilyn rhediad o wyth colled yn olynol.
Caernarfon (4ydd) v Met Caerdydd (7fed) | Dydd Sadwrn – 17:15
Tair blynedd yn ôl fe enillodd Met Caerdydd 3-2 ar yr Oval yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle, ac fe aeth y myfyrwyr ymlaen i sicrhau eu lle yn Ewrop am y tro cyntaf erioed y tymor hwnnw.
Ond ers hynny, mae’r clybiau wedi cyfarfod chwe gwaith gyda’r Cofis yn ennill pump o’r gemau rheiny.
O’r pedwar clwb sydd yn cymeryd rhan yn y gystadleuaeth, Met Caerdydd yw’r unig dîm sydd â phrofiad o ennill y gemau ail gyfle.
Dyma’r trydydd tro i Gaernarfon gyrraedd y gemau ail gyfle ers eu dyrchafiad yn 2018, ond mae’r Caneris wedi colli gartref ym mhob un o’u hymdrechion blaenorol (vs Met Caerdydd a’r Drenewydd).
Mae rheolwr Met Caerdydd, Christian Edwards wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei rôl ar ddiwedd y tymor, a bydd y Cofis yn gobeithio mae hon fydd ei gêm olaf gyda’r myfyrwyr.