S4C

Navigation

Mae ‘na set llawn o gemau canol wythnos o’n blaenau ni yn y Cymru Premier JD, ac mi fydd yna frwydrau cyffrous i’w gweld ar y brig a thua’r gwaelod.  

Bydd hi’n 1af yn erbyn 2il ac yn 3ydd yn erbyn 4ydd nos Fawrth, cyn i’r ddau isaf, Derwyddon Cefn ac Aberystwyth gwrdd nos Fercher. 

 

 

Nos Fawrth, 12 Hydref 

Caernarfon (4ydd) v Y Fflint (3ydd) | Nos Fawrth – 19:45 

Mae Caernarfon yn mwynhau cyfnod cryf ar ôl colli dim ond un o’u wyth gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth. 

Mae’r Cofis wedi cadw pum llechen lân mewn saith gêm gan brofi eu bod yn fwy na pharod i gystadlu am le yn y Chwech Uchaf eto eleni. 

Dim ond un pwynt sy’n gwahanu Caernarfon a’r Fflint, ac er y dechrau cadarn, dyw tîm Neil Gibson heb ennill oddi cartref yn y gynghrair ers curo Met Caerdydd ar benwythnos agoriadol y tymor. 

Dyw’r Fflint heb ennill dim un o’u naw gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon (colli 8, cyfartal 1), ond bydd bechgyn Cae-y-Castell yn llawn hyder ar ôl trechu’r Barri mewn gêm gofiadwy ddydd Sadwrn (3-2). 

Record cynghrair diweddar: 

Caernarfon: ➖✅✅➖✅ 

Y Fflint: ❌✅❌❌✅ 

 

Cei Connah (8fed) v Y Drenewydd (5ed) | Nos Fawrth – 19:45 

Wedi’r llwyddiant cynyddol dros y chwe tymor diwethaf, mae Cei Connah mewn safle anghyfarwydd i lawr yn hanner isa’r tabl ar ôl ennill dim ond dwy o’u wyth gêm gynghrair hyd yma. 

Does dim un o chwaraewyr Cei Connah wedi sgorio mwy nac un gôl gynghrair y tymor hwn, ond mae’r Nomadiaid yn parhau i fod yn gadarn yn y cefn ac yn hafal gyda’r Seintiau a’r Bala am y record amddiffynnol orau (ildio chwe gôl mewn wyth gêm). 

Dyma ddechrau gwaethaf Cei Connah yn yr uwch gynghrair ers 2014/15, a dyma’r tro cyntaf i’r tîm fynd ar rediad o chwe gêm heb ennill mewn tymor ers 2014/15. 

Ond, efallai daw’r rhediad hesb i ben nos Fawrth gan bod Cei Connah wedi ennill eu saith gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd, ac heb heb golli dim un o’u 10 gêm ddiwethaf yn erbyn y Robiniaid (ennill 8, cyfartal 2). 

Cysondeb ydi’r broblem i’r Drenewydd ar hyn o bryd gan fod y Robiniaid wedi colli yn erbyn Aberystwyth a Chaerfyrddin yn ddiweddar, ond wedi dangos yn eu dwy gêm ddiwethaf eu bod yn ddigon da i guro’r Barri a Phen-y-bont yn gyfforddus. 

Record cynghrair diweddar: 

Cei Connah: ➖❌❌͏͏➖❌ 

Y Drenewydd: ✅❌❌✅✅ 

 

Pen-y-bont (9fed) v Hwlffordd (10fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Yn hafal ar bwyntiau yn y 9fed a’r 10fed safle, mae hon yn gêm fawr rhwng dau dîm sydd wedi cael dechrau caled i’r tymor. 

Gyda dim ond un buddugoliaeth mewn wyth gêm gynghrair, ac honno yn erbyn Derwyddon Cefn, mae’n syndod gweld Pen-y-bont yn stryffaglu tua’r gwaelod ar ôl gorffen yn 4ydd y tymor diwethaf. 

Mae pob un o bedair gêm gartref Pen-y-bont yn y gynghrair y tymor hwn wedi gorffen yn gyfartal 1-1, ond bydd Rhys Griffiths yn disgwyl dim llai na triphwynt nos Fawrth.

Mae eu gwrthwynebwyr, Hwlffordd wedi codi o’r ddau isaf am y tro cyntaf ers mis Awst yn dilyn rhediad o bum gêm heb golli, sy’n cynnwys buddugoliaethau yn erbyn Y Fflint a Met Caerdydd. 

Ond dyw Pen-y-bont heb golli dim un o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn yr Adar Gleision (ennill 5, cyfartal 1). 

Record cynghrair diweddar: 

Pen-y-bont: ❌➖✅➖❌ 

Hwlffordd: ❌❌✅➖✅ 

 

Y Barri (7fed) v Met Caerdydd (6ed) | Nos Fawrth – 19:45 

Cyrraedd y Chwech Uchaf fydd y nod i’r ddau dîm yma sydd wedi cael dechrau gweddol i’r tymor.  

Mae’r Barri wedi colli eu tair gêm ddiwethaf gan lithro i hanner isa’r tabl, tra bod Met Caerdydd wedi ennill chwech o’u wyth gêm ddiwethaf a chodi i’r hanner uchaf. 

Bydd Y Barri’n gobeithio talu’r pwyth yn ôl gan i Met Caerdydd drechu’r Dreigiau o dair gôl i ddim yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru fis diwethaf.

Record cynghrair diweddar: 

Y Barri: ✅✅❌❌❌ 

Met Caerdydd: ✅✅❌✅❌ 

 

Y Seintiau Newydd (1af) v Y Bala (2il) | Nos Fawrth – 19:45 

Bydd hi’n 1af yn erbyn 2il yn Neuadd y Parc nos Fawrth, ond mae chwe phwynt yn gwahanu’r ddau uchaf yn dilyn canlyniadau’r penwythnos diwethaf. 

Enillodd Y Seintiau Newydd oddi cartref yn erbyn y pencampwyr Cei Connah, diolch i 7fed gôl gynghrair Declan McManus, ond fe fethodd Y Bala a churo’r Derwyddon gan ddod y tîm cyntaf i ollwng pwyntiau yn erbyn y clwb o Gefn Mawr y tymor yma. 

Bydd hi’n noson anodd i dîm Colin Caton gan nad yw’r Bala erioed wedi curo’r Seintiau Newydd yn Neuadd y Parc, na chwaith wedi sgorio yn eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn cewri Croesoswallt. 

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ✅➖✅✅✅ 

Y Bala: ✅✅✅✅➖ 

 

Nos Fercher, 13 Hydref 

Derwyddon Cefn (12fed) v Aberystwyth (11eg) | Nos Fercher – 19:45 

Wedi 16 colled yn olynol yn y gynghrair, daeth rhediad trychinebus y Derwyddon i ben brynhawn Sadwrn wrth i dîm Andy Turner selio pwynt annisgwyl ym Maes Tegid. 

Roedd hi’n gam i’r cyfeiriad cywir i’r Derwyddon, ond mae ‘na fynydd i’w ddringo os ydyn nhw am gau’r bwlch o saith pwynt sydd rhyngddyn nhw a diogelwch y 10fed safle. 

Dyw Aber ond wedi sgorio mewn dwy o’u wyth gêm gynghrair y tymor yma, ac mae tîm Antonio Corbisiero wedi syrthio i safleoedd y cwymp ar ôl colli yn erbyn Caernarfon ddydd Sadwrn.  

Ond mae Aberystwyth wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn y Derwyddon gan sgorio 19 o goliau (3.8 gôl y gêm).

Record cynghrair diweddar: 

Aberystwyth: ❌❌✅❌❌
Derwyddon Cefn: ❌❌❌❌➖ 

 

Bydd uchafbwyntiau gemau’r penwythnos i’w gweld ar ein gwefannau cymdeithasol. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?