Hwlffordd sydd wedi hawlio safle olaf Ewrop y Cymru Premier JD wedi i’r gêm yn erbyn y Drenewydd fynd i giciau o’r smotyn bnawn Sadwrn.
1-1 oedd y canlyniad wedi 90 munud ac amser ychwanegol, ac roedd angen ciciau o’r smotyn i ddewis enillydd.
Roedd gan Ben Fawcett y cyfle i ennill y gêm i Hwlffordd ond fe gafodd ei gic ei harbed gan Dave Jones.
Wedi i’r Drenewydd daro’n ôl a rhwydo, roedd gan Corey Shephard y cyfle i ennill i Hwlffordd, ac fe wnaeth hynny’n gyfforddus.
O ganlyniad fe fydd Hwlffordd yn chwarae yng nghystadleuaeth Ewrop am y tro cyntaf ers 2o mlynedd.
Roedd y 20 munud agoriadol yn weddol dawel, gyda’r naill dîm yn cymryd rheolaeth o’r chwarae am gyfnodau.
Newidiodd hynny ar ôl 24 munud wrth i’r Drenewydd fethu rheoli’r bel yn ardal yr amddiffyn ac fe wnaeth Jordan Davies rwydo’n hawdd i roi mantais i’r Adar Gleision.
Ond 14 munud yn ddiweddarach fe wnaeth y Drenewydd daro’n ôl wrth i groesiad Craig Williams ddarganfod Aaron Williams yn y cwrt chwech gan benio heibio Zac Jones.
Wrth i’r ail hanner gychwyn roedd angen i Zac Jones wneud dau arbediad gwych i atal y Drenewydd rhag mynd ar y blaen.
Gyda 15 munud yn weddill roedd gan Jack Wilson gyfle euraid i roi Hwlffordd ar y blaen, ond fe wnaeth ei ergyd hedfan dros y bar.
Nid oedd y Robiniaid na’r Adar Gleision yn gallu sgorio yn amser ychwanegol, a Hwlffordd wnaeth hawlio tocyn olaf Ewrop gyda mantais ar ddiowedd ciciau o’r smotyn.