Bydd un gêm gynghrair yn cael ei chwarae dros y penwythnos, sef yr ornest rhwng Hwlffordd a’r Bala, a bydd y cyfan yn fyw ar Sgorio brynhawn Sadwrn am 5.00.
Dydd Sadwrn, 31 Hydref
Hwlffordd v Y Bala | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C)
Roedd Hwlffordd yn hynod o anlwcus i adael Neuadd y Parc yn waglaw y penwythnos diwethaf ar ôl bod ar y blaen ddwywaith yn erbyn Y Seintiau Newydd cyn ildio wedi 90 munud a cholli’r gêm.
Mae’r Bala wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf a byddai buddugoliaeth arall yn eu codi uwchben Cei Connah i’r ail safle ac yn cau’r bwlch ar y Seintiau Newydd (eu gwrthwynebwyr nesaf) i driphwynt.
Hwlffordd oedd yn fuddugol yn y gêm ddiwethaf rhwng y timau gyda Jack Wilson yn taro’n hwyr i gipio’r pwyntiau i’r Adar Glesision, ond dyw Hwlffordd erioed wedi ennill gêm gartref yn erbyn Y Bala.
Dyw Hwlffordd heb orffen yn uwch na’r 12fed safle yn Uwch Gynghrair Cymru ers gorffen yn 7fed yn 2008/09 pan oedd 18 clwb yn y gynghrair.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ✅❌✅ ➖❌
Y Bala: ❌✅✅✅✅