S4C

Navigation

Bydd Wrecsam yn darganfod pwy yw eu gwrthwynebwyr yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr nos Lun ar ôl curo Farnborough o bedair i un ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

 

Dechreuodd y gêm yn eithaf cyfartal gyda’r ddau dîm yn edrych i gael y bêl lawr yr asgelli ond doedd y bêl olaf ddim yn ddigon cywir.

 

Daeth yr hanner cyfle cyntaf i Mullin ar ôl i bêl gael ei rowlio tuag ato yng nghanol y cwrt cosbi mewn digon o le, ond cam giciodd y bêl ac roedd y cyfle wedi diflannu.

 

Roedd partner Mullin am y prynhawn, Sam Dalby yn dawel o flaen y gôl yn yr hanner agoriadol ond daeth ei gyfle cyntaf ar ôl gwaith da gan ei hyn ar ochr y cwrt cosbi i ddal y bêl i fyny cyn troi ac ergydio dros y trawst.

 

Parhaodd y gêm yn gyfartal iawn am weddill yr hanner gyda hanner cyfle i’r ymwelwyr ddeg munud cyn diwedd yr hanner wrth i Reggie Young wneud rhediad lawr ochr dde’r cwrt cosbi cyn croesi gyda phêl berryg ar draws y cwrt ond doedd neb yno. Aeth Young i lawr yn gofyn am gic o’r smotyn ar ôl mymryn o gysylltiad ond dim yn ddigon gan y dyfarnwr James Oldham.

 

Cafodd golwr Farnborough ei alw wrth i Jordan Davies daro dwy ergyd dda am y gôl ar ôl i’r bêl lanio’n  garedig o gic cornel, wnaeth y golwr yn dda iawn i arbed y ddwy.

 

Digwyddiad anffodus a ddaeth cyn i’r hanner cyntaf ddod i ben wrth i Jordan Davies orfod gadael y cae ar stretsier gyda’g anaf i’w benglin.

 

Hanner amser: Wrecsam 0-0 Farnborough

 

Ar ôl dim ond tair munud o chwarae yn yr ail hanner, roedd Wrecsam ar y blaen ar ôl i gic cornel y capten Luke Young gael ei phenio at y postyn pellaf gan Sam Dalby a phwy oedd yno i droi’r bêl i mewn, Paul Mullin wrth gwrs gyda gôl rhif 50 mewn crys Wrecsam.

 

Roedd cyfle da arall i’r tim cartref funudau yn ddiweddarach ar ôl i Callum McFadzean ddarganfod lle lawr yr asgell chwith cyn ergydio yn isel ar draws y gôl, yn anffodus i Wrecsam aeth ei ergyd fodfeddi heibio’r postyn.

 

Fe wnaeth chwarae da a phositif yr ymwelwyr dalu ar ei ganfed ar ôl awr gyda Oliver Pendlebury yn crymanu cic rydd dros wal Wrecsam ac i mewn i’r rhwyd ar ôl i Mark Howard fethu ei harbed yn y gôl.

 

Fu bron iawn i Farnborough gamu i’r blaen ychydig yn ddiweddarach ar ôl i rediad da ac ergyd wych gan Salim Saied orfodi Howard i neud arbediad dda i’w chwith.

 

I mewn i’r chwarter awr olaf ac aeth Wrecsam ar y blaen, ni lwyddodd Farnborough i glirio pêl isel i mewn i’r cwrt cosbi wrth i’r bêl ddod allan i Elliot Lee 25 llath o’r gôl, mewn digon o le, cymerodd gyffyrddiad cyn crymanu’r bêl i gornel ucha’r rhwyd yn gadael y golwr heb unrhyw siawns.

 

Symudiad campus oedd trydedd gôl y tim cartref, gyda Young yn pasio i Palmer yn hanner Wrecsam cyn i’r capten ddal i fynd gyda’i rediad a derbyn y bêl yn ôl, yna yn gweld rhediad wych McFadzean trwy ganol yr amddiffyn cyn iddo ddarganfod Mullin yn rhydd yn y cwrt cosbi a wnaeth dim camgymeriad gyda’i ergyd pwerus i gornel ucha’r rhwyd.

 

Un chwaraewr a wnaeth wahaniaeth mawr ar ôl dod ymlaen fel eilydd oedd Ollie Palmer, nid yn unig oedd yn allweddol yn y symudiad ar gyfer yr drydedd gôl ond hefyd eto ar yr achlysur yma wrth i’r blaenwr mawr godi’r bêl i McFadzean lawr o’r dde, cyn i yntau godi’r bêl i Mullin a wnaeth ergydio yn acrobataidd heibio i Turner yn y gôl i goroni ail hanner gwych gan y Dreigiau.

 

Canlyniad: Wrecsam 4-1 Farnborough

 

Felly, Wrecsam yn ddiogel yn yr het ar gyfer y drydedd rownd am y tro cyntaf ers tymor 2014/15.

 

Bydd yr enwau yn cael eu tynnu allan o’r het ar gyfer y rownd nesaf nos Lun rhwng 19:00 – 19:30 yn fyw ar BBC Two. Rhif pêl Wrecsam ydi 46.

 

Torf – 9118 (440 o Farnborough) Y Dorf fwyaf ar Y Cae Ras mewn gêm Cwpan FA Lloegr ers eu buddugoliaeth yn erbyn Middlesbrough yn 1999

 

Wrecsam: Howard (GK), McAlinden (Forde 68’), Hayden, Tozer, Tunnicliffe, McFadzean, Young ©, Davies (Jones 45’), Lee (O’Connor 88’), Mullin, Dalby (Palmer 68’)

Eilyddion dim wedi dod ymlaen: Lainton, Hall-Johnson, Mendy, Lennon, Cleworth

Farnborough: Turner, Ball, Robinson, Norville-Williams, Grant (Deering 84’), Young, Lokko ©, Pendlebury, Page (Fearn 88’), Saied (Rowe 83’), Kasimu (Fernandes 85’)

Eilyddion dim wedi dod ymlaen: Holmes

Meilyr Williams

Author Meilyr Williams

More posts by Meilyr Williams
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?