S4C

Navigation

Bydd S4C yn dangos pob un o gemau Cymru yn fyw yn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar.

Mi fydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg, Y Weriniaeth Tsiec, Belarws ac Estonia yn eu grŵp rhagbrofol, gan obeithio hawlio lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Bydd yr ymgyrch yn cychwyn ar nos Fercher 24 Mawrth oddi cartref yn erbyn Gwlad Belg, y tîm sydd yn rhif un ar restr detholion y byd FIFA.

Bydd Sgorio Rhyngwladol yn dangos pob un o gemau’r cochion yn ystod yr ymgyrch, yn fyw ar S4C ac S4C Clic.

Yn ogystal, bydd y gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Mecsico, i’w chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Sadwrn 27 Mawrth, i’w gweld yn fyw ar S4C.

Dywedodd Dylan Ebenezer, cyflwynydd Sgorio: “Mae 2021 yn mynd i fod yn flwyddyn enfawr i Gymru. Yn ogystal â’r mater bach o chwarae ym Mhencampwriaeth Ewrop, bydd y tîm yn chwarae eu holl gemau yng ngrŵp rhagbrofol Cwpan y Byd 2022.

“Unwaith eto mae’r wyth gêm wedi eu cywasgu i wyth mis, ac er bod y grŵp yn un anodd dros ben mae perfformiadau diweddar y tîm cenedlaethol yn awgrymu bod gobaith go iawn o gyrraedd y llwyfan mwyaf.

“Er na fydd y Wal Goch yn gallu dilyn y tîm am gyfnod, fe fydd modd i gefnogwyr ddilyn pob cam o’r ymgyrch gyda Sgorio.”

Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: “Mae hwn yn gyfnod hynod o gyffrous i’r tîm cenedlaethol, wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar.

“Rydym yn falch iawn o allu dangos yr holl gemau ar S4C unwaith eto. Gobeithio’n wir allwn ni gyrraedd Qatar.”

 

Gemau byw Cymru ar S4C

Gwlad Belg v Cymru
Nos Fercher 24 Mawrth, CG 7.45

Cymru v Mecsico – Gêm Gyfeillgar
Nos Sadwrn 27 Mawrth, CG 8.00

Cymru v Y Weriniaeth Tsiec
Nos Fawrth 30 Mawrth, CG 7.45

Belarws v Cymru
Dydd Sul 5 Medi, CG 3.00

Cymru v Estonia
Nos Fercher 8 Medi, CG 7.45

Y Weriniaeth Tsiec v Cymru
Nos Wener 8 Hydref, CG 7.45

Estonia v Cymru
Nos Lun 11 Hydref, CG 7.45

Cymru v Belarws
Nos Sadwrn 13 Tachwedd, CG 7.45

Cymru v Gwlad Belg
Nos Fawrth 16 Tachwedd, CG 7.45

 

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?