Wrth i dîm Dan 21 Cymru deithio i Ewrop dros y bythefnos nesaf, bydd modd gwylio eu dwy gêm yn fyw ar-lein ar Sgorio.
Bydd y tîm Dan 21 yn parhau a’u hymgyrch rhagbrofol UEFA Euro Dan 21 2023 ar ddechrau mis Hydref gyda dwy gêm oddi cartref yn erbyn Moldofa a’r Iseldiroedd.
Bydd y ddwy gêm i’w gweld yn fyw ar-lein ar S4C Clic a thudalennau Facebook ac YouTube Sgorio.
Wedi gêm gyfartal ddi-sgôr gartref yn erbyn Moldofa a buddugoliaeth wych o bedwar gôl i ddim oddi cartref yn erbyn Bwlgaria hyd yma, bydd tîm Paul Bodin yn anelu i barhau a’u rhediad di-guro yn y ddwy gêm oddi cartref yma.
Gyda Sgorio hefyd yn darlledu gemau tîm dynion Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA 2022, bydd gwledd o bêl-droed i’w mwynhau ar ddydd Gwener 8 Hydref.
Yn gyntaf, bydd tîm Dan 21 Cymru yn mynd benben â Moldofa am 4.00yh, gyda’r gêm i’w gweld yn fyw ar-lein, cyn i’r gêm hollbwysig rhwng y Weriniaeth Tsiec a Chymru gael ei dangos am 7.25yh ar S4C, cic gyntaf am 7.45yh.
Bydd tîm Rob Page yn teithio tua’r dwyrain i herio Estonia ar nos Lun 11 Hydref, ac mi fydd y gêm yn cael ei dangos yn fyw ar S4C am 7.25yh, cic gyntaf 7.45yh.
Yna ar nos Fawrth 12 Hydref, bydd y tîm Dan 21 yn gwneud y daith i Nijemen i herio’r Iseldiroedd, gyda’r gêm yn cael ei ddarlledu yn fyw ar-lein gan Sgorio am 7.00yh.
Ar gyfer yr holl newyddion, clipiau a chyfweliadau o’r holl gemau, dilynwch @sgorio ar Twitter, Facebook ac Instagram.