Bydd llygaid y byd ar Neuadd Lles, Tylorstown nos Fercher wrth i reolwr Cymru, Robert Page, gyhoeddi ei garfan o 26 chwaraewr fydd yn teithio i Gwpan y Byd 2022.
Tra bod America, sydd yn yr un grŵp â Chymru yn Qatar, wedi gwahodd y wasg i’r Empire State Building ar gyfer cyhoeddiad eu carfan nhw, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dewis llogi neuadd sydd, fel arfer, yn gartref i Gôr Meibion Pendyrus a nosweithiau Bingo.
Pam Tylorstown? Wel dyma’r pentref lle magwyd Page, y pentref lle cychwynnodd ar yrfa arweiniodd o Glwb Bechgyn Pendyrus i Watford, Sheffield United a 41 o gapiau dros ei wlad.
Ond mae gwreiddiau pêl-droed Cymru yn treiddio’n ddyfnach yn y Rhondda na man geni’r rheolwr presennol. Tair milltir dros y cwm o Tylorstown yn Rhondda Fach, mae pentref Pentre yn Rhondda Fawr, man geni Jimmy Murphy, rheolwr Cymru yng Nghwpan y Byd 1958.
Teg yw dweud fod y Rhondda wedi newid cryn dipyn yn y 64 mlynedd ers ein hymddangosiad diwethaf yng Nghwpan y Byd. Bryd hynny roedd pyllau glo yn ymestyn o Trehafod i Flaen Rhondda ac o Porth i’r Maerdy gyda degau o filoedd o ddynion yn ennill eu bywoliaeth o dan ddaear.
Mae creithiau’r pyllau glo wedi hen ddiflannu ond nid diflaniad y diwydiannau trwm ydi’r unig beth sydd wedi newid yn llwyr ers y 1950au.
Tra bydd degau o griwiau teledu a milltiroedd o geblau yn sicrhau fod Page yn cyhoeddi ei garfan i gynulleidfa led led y byd, ni chafodd Jimmy Murphy y fraint o hyd yn oed dewis ei garfan ei hun!
Ar ôl trechu Israel a sicrhau eu lle yn Sweden, daeth o 11 o Gynghorwyr y Gymdeithas Bêl-droed ynghyd mewn gwesty yn Amwythig ar 18 Ebrill 1958 er mwyn dewis carfan o 22 o chwaraewyr fyddai’n cynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd.
Tra bod Murphy wedi mynnu, wrth gymryd y swydd ym mis Mawrth 1957, mai ef fyddai’n dewis y tîm, y dewiswyr bondigrybwyll fyddai’n parhau i ddewis y garfan ehangach.
Er gwaethaf protestiadau Murphy, ni chafodd Trevor Ford ei ddewis wedi iddo gyfaddef i dderbyn taliadau anghyfreithlon yn ei hunangofiant.
Ac mae hynny yn stori ynddo’i hyn!
Ac yn wahanol iawn i gyhoeddiad carfan 2022 fydd yn cael ei yrru’n fyw i bob ffôn, cyfrifiadur a set deledu yng Nghymru, dim ond yr 11 dewiswr oedd yn gwybod canlyniad carfan 1958 hyd nes i’r chwaraewyr lwcus dderbyn telegram gyda’r newyddion da!
I wneud pethau’n waeth, cafodd pedwar chwaraewr y newyddion bendigedig eu bod wedi eu dewis i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd … ond yn yr un gwynt, y newyddion drwg eu bod yn gorfod aros adref i ymarfer ar ben eu hunain.
Penderfynodd y dewiswyr arbed arian i’r Gymdeithas trwy deithio i Gwpan y Byd gyda dim ond 18 o’r 22 chwaraewr, er gwaetha’r ffaith fod yr 11 o ddewiswyr a tair o’u gwragedd ar yr awyren i Sweden!
Graham Vearncombe (Caerdydd), John Elsworthy (Ipswich) Len Allchurch (Abertawe) a George Baker (Plymouth Argylle) oedd y pedwar anlwcus.
I rwbio halen i’w friw, ac er bod yn aelod o’r garfan, ni chafodd Elsworthy gyfle i ennill yr un cap dros ei wlad tra bod rhaid i Baker fodloni ar yr un cap gafodd o ym 1948.
Llwyddodd Murphy i synnu’r byd pêl-droed yn Sweden wrth arwain Cymru allan o’u grŵp cyn colli yn erbyn Brasil yn rownd yr wyth olaf ond doedd eu campau ddim yn newyddion mawr yn ôl yng Nghymru.
Wedi dychwelyd i Lundain, bu rhaid i’r chwaraewyr deithio ar eu liwt eu hunain yn ôl i’w cartrefi, ac wedi disgyn o’r trên yn Abertawe gofynnodd y casglwr tocynnau wrth Mel Charles os oedd wedi bod ar ei wyliau!
Mae un peth sy’n sicr, gyda pob gêm yn fyw ar S4C bydd na fwy o ddathlu campau Robert Page a’i dîm wrth geisio efelychu campau Jimmy Murphy a bois 1958.
Erthygl gan Gary Pritchard