S4C

Navigation

Mae Cymru wedi colli yn erbyn Gwlad Pwyl yng Nghynghrair y Cenehedloedd yn Wrocław brynhawn dydd Mercher, a hynny o 2-1.

Roedd Cymru yn chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn erbyn Gwlad Pwyl ers 1973, ac er y perfformiad calonogol, fe fydd y canlyniad yn siom enfawr ar ôl hawlio’r meddiant am gyfnodau o’r gêm.

Bydd holl sylw dynion Rob Page nawr yn troi at rownd derfynol gemau ail-gyfle y Cwpan y Byd yng Nghaerdydd brynhawn dydd Sul.

Roedd y gêm yn erbyn y Pwyliaid yn gyfle i chwaraewyr ifanc fel Dylan Levitt a Matt Smith ddisgleirio, ac fe gafodd Wes Burns ei gap cyntaf dros ei wlad yn Wrocław.

Ni lwyddodd yr un o’r ddau dîm i fanteisio ar sawl cyfle yn ystod hanner cyntaf cystadleuol, gyda blaenwyr y ddau ochr yn wastraffus ar brydiau.

Ond fe ddaeth y gêm yn fyw rhyw 10 munud i mewn i’r ail hanner wrth i Johnny Williams roi Cymru ar y blaen gydag ergyd gampus o ymyl y cwrt cosbi.

Fe wnaeth Cymru reoli’r meddiant yn y munudau nesaf ond nid oedd modd cynyddu’r fantais wrth i amddiffyn Gwlad Pwyl aros yn gadarn.

Er mawr siom i’r 2,000 o aelodau’r Wal Goch oedd wedi teithio i Wlad Pwyl, fe wnaeth camgymeriad amddiffynol Cymru ildio gôl ar ôl gadael gormod o le i’r eilydd Jakub Kaminski i wyro’r bêl tu hwnt i Danny Ward.

Cafodd y fuddugoliaeth ei sicrhau i’r Pwyliaid bum munud cyn y chwiban olaf, wrth i ergyd Robert Lewandowski wyro’n garedig oddi ar Rhys Norrington-Davies i draed Karol Swiderski, cyn iddo sgorio o chwe llath.

Mae’n golygu bod Cymru yn wynebu’r Iseldiroedd a Gwlad Belg ar waelod y grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Er y siom, fe fydd gan Rob Page lawer i fod yn falch ohono cyn y gêm dyngedfennol mewn pedwar diwrnod.

Erthygl: Newyddion S4C

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?