Pêl-droed rhyngwladol byw yn Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA 2022. Ar ôl yr ymgyrch lwyddiannus i gyrraedd Euro 2020, yr her nesaf i Gymru yw cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958. Allai’r her ddim fod yn anoddach i agor yr ymgyrch: taith i Wlad Belg i wynebu’r tîm gorau yn y byd yn ôl y rhestr detholion, tîm sy’n cynnwys chwaraewyr gwych fel Kevin de Bruyne ac Eden Hazard.
Y cyfan yn fyw yng nghwmni Dylan Ebenezer, Owain Tudur Jones, Gwennan Harries a John Hartson gyda’r gic gyntaf am 7.45.