S4C

Navigation

Cymru’n colli eu gêm agoriadol yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022.

Siom i Gymru wrth i De Bruyne, Hazard a Lukaku sgorio i sicrhau’r fuddugoliaeth i Wlad Belg yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 yn Quatar.

Llwyddodd Cymru i agor y sgorio gyda gôl hyfryd gan y tîm – pasio celfydd gydag un cyffyrddiad gan Connor Roberts a Gareth Bale yn agor amddiffyn Gwlad Belg gan greu’r cyfle i Harry Wilson sgorio.

Fe sgoriodd Kevin De Bruyne wedi 20 munud o’r hanner cyntaf i unioni’r sgôr, ergyd nerthol o du allan i’r cwrt cosbi yn curo Danny Ward yn y gôl i Gymru.

Aeth Gwlad Belg ar y blaen saith munud yn ddiweddarach, Thorgan Hazard yn penio’r tîm cartref ar y blaen ar ôl i Connor Roberts lithro a gadael y cyfle i’r ymosodwr.

Yn siomedig i Gymru fe aeth Joe Allen i ffwrdd o’r cae wedi wyth munud o’r hanner cyntaf gydag anaf – dyma’r tro cyntaf i Allen ddechrau i Gymru ers y fuddugoliaeth 2-0 dros Hwngari yn Nhachwedd 2019.

Gyda’r hanner cyntaf yn gorffen 2-1, fe ddechreuodd Cymru’r ail hanner yn gryf gan ddal eu tir yn dda ond i Chris Mepham yn ildio cic o’r smotyn, gyda Romelu Lukaku yn sgorio ei 58fed gôl i Wlad Belg wedi 73 munud.

Bydd Cymru y nawr yn troi eu sylw at y gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico nos Sadwrn cyn wynebu’r Weriniaeth Tsiec nos Fawrth (30/03) yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?