Roedd gêm nos Iau yn erbyn Gwlad Belg yng Nghynghrair y Cenhedloedd am fod yn her o’r cychwyn i Gymru heb chwaraewyr profiadol fel Ben Davies, Aaron Ramsey a Joe Allen.
Roedd pedwar newid i’r tîm a wnaeth golli yn erbyn yr Iseldiroedd ym mis Mehefin a chapten Cymru, Gareth Bale, ar y fainc wrth iddo barhau i addsau i chwarae yn yr UDA.
Fe ddechreuodd Cymru yn addawol ac er bod Gwlad Belg wedi dechrau bygwth wrth nesáu at 10 munud o chwarae, fe lwyddodd Connor Roberts i ddelio ag ymgais Kevin De Bruyne i groesi i mewn i’r bocs.
Wedi 10 munud o chwarae fe sgoriodd Kevin De Bruyne wedi i Matt Smith golli meddiant ar y bêl gan alluogi capten Gwlad Belg i fanteisio ar ei gamgymeriad.
Ar ôl 37 munud o chwarae, sgoriodd Michy Batshuayi diolch i groesiad gan De Bruyne i ddwblu mantais tîm Roberto Martinez.
Kieffer Moore oedd arwr Cymru ar ôl 50 munud o chwarae, wedi iddo benio a sgorio i Gymru, gan sicrhau mai un gôl yn unig oedd ei angen er mwyn ei gwneud hi’n gêm gyfartal.
Roedd Brennan Johnson yn allweddol i’r chwarae hefyd, wrth wibio heibio amddiffynwyr cyn ei phasio hi i’r sgoriwr.
Roedd Cymru yn chwarae yn llawer mwy ymosodol yn yr ail hanner.
Daeth Gareth Bale a Joe Morrell ymlaen yn lle Matt Smith a Kieffer Moore ar ôl 64 munud a Chymru yn parhau yn y gêm.
Roedd ychydig o funudau nerfus i Gymru wrth nesáu at 80 munud, gyda dyfarniad o gic o’r smotyn i Wlad Belg yn erbyn Joe Morrell, ond yn ffodus, roedd VAR a’r dyfarnwr o blaid Cymru y tro hwn, gan wyrdroi y dyfarniad a sicrhau bod y gêm yn parhau yn 2-1.
Er gwaethaf chwe munud ychwanegol o amser ychwanegol ar ôl 90 munud, colli o 2-1 oedd hanes Cymru wedi ail-hanner addawol.
Bydd Cymru yn herio Gwlad Pwyl am y tro olaf o flaen y Wal Goch gartref nos Sul, cyn y bydd tîm Rob Page yn teithio i Qatar i chwarae yng Nghwpan y Byd.
Fe fydd y gēm nos Sul yn penderfynu ffawd Cymru yng ngrŵp A4 Cynghrair y Cenhedloedd, gyda’r crysau cochion a Gwlad Pwyl yn brwydro i osgoi gorffen ar waelod y tabl.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru