S4C

Navigation

Cymru yn parhau â’u record heb golli yn eu grŵp Cynghrair y Cenhedloedd ar ôl y gêm gyfartal di-sgôr yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

Prin oedd y cyfleoedd i’r naill dîm, mewn gornest anghofiadwy yn Stadiwm Aviva, Dulyn.

Cafodd chwaraewr canol cae James McClean ei hel o’r maes i’r tîm cartref ar ôl derbyn dau gerdyn melyn yn hwyr yn y gêm, ond roedd Cymru methu a manteisio.

Enillodd Wayne Hennessey cap rhif 93, un yn fwy na’r golwr chwedlonol, Neville Southall – ond cafodd ddim i’w wneud trwy’r gêm a llechen lân arall i’w enw.

Ar ôl ennill eu dwy gêm agoriadol o’r grŵp Cynghrair y Cenhedloedd mae Cymru yn parhau ar y brig ac yn teithio i Bwlgaria nos Fercher, gyda’r gêm yn fyw ar S4C am 7.25.

BEN DAVIES: ‘Ni’n gallu chwarae lot gwell’

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?