Ar y cyfan, roedd hi’n wythnos siomedig i glybiau Cymru yn Ewrop gan i’r Seintiau Newydd, Hwlffordd a Pen-y-bont fethu ag ennill eu gemau agoriadol.
Di-sgôr oedd hi rhwng y Seintiau a phencampwyr Macedonia yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, ond colli bu hanes Hwlffordd a Pen-y-bont yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres UEFA.
Oherwydd y canlyniadau siomedig mae Cymru unwaith eto mewn perygl o golli un o’u safleoedd yn Ewrop ar gyfer y tymhorau nesaf.
Bydd pedwar tîm o Gymru yn gymwys i chwarae’n Ewrop y tymor nesaf, ond wedi hynny, fe all y nifer syrthio i dri os na fydd Y Seintiau Newydd, Hwlffordd a Pen-y-bont yn gallu codi’r safon yn yr ail gymal.
Shkëndija (0) v (0) Y Seintiau Newydd | Nos Fawrth, 15 Gorffennaf – 19:00 (Yn fyw ar S4C)
(Toše Proeski Arena, Skopje – Ail Gymal Rownd Ragbrofol Gyntaf Cynghrair y Pencampwyr 2025/26)
Wedi gornest gyfartal yng Nghroesoswallt yn y cymal cyntaf does dim byd i wahanu pencampwyr Cymru a Macedonia cyn yr ail gymal yn Skopje.
Blaenwr newydd y Seintiau, Ben Wilson gafodd y cyfle gorau hanner ffordd drwy’r ail hanner, ond fe safodd golwr rhyngwladol Gambia, Baboucarr Gaye yn gadarn gan arbed yr ergyd isel yn wych gyda’i droed chwith.
Fe wnaeth yr ymwelwyr fygwth am gyfnodau hefyd gyda capten y Seintiau, Daniel Redmond yn gorfod clirio’r bêl oddi ar y linell ar ddau achlysur i achub ei dîm.
Hon oedd y drydedd gêm ddi-sgôr yn olynol i’r Seintiau ei chael mewn gêm Ewropeaidd yn Neuadd y Parc, ond bydd yn rhaid i’r ddau dîm fynd amdani yn yr ail gymal yn stadiwm cenedlaethol Gogledd Macedonia.
Y tymor diwethaf fe enillodd KF Shkëndija bencampwriaeth Macedonia am y pumed tro yn eu hanes, ond er eu llwyddiant domestig, dyw’r clwb erioed wedi llwyddo i fynd heibio’r rowndiau rhagbrofol yng nghystadlaethau Ewrop.
Dyma’r eildro i’r Seintiau gael eu dethol i wynebu Shkëndija yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, ac roedd hi’n ornest agos iawn y tro diwethaf yn 2018.
Enillodd Shkëndija’n gyfforddus o 5-0 yn y cymal cyntaf yn Skopje, ond fe frwydrodd y Seintiau’n ôl yn yr ail gymal yng Nghroesoswallt gyda’r gêm yn gorffen yn 4-0, a pencampwyr Macedonia yn crafu eu ffordd i’r rownd nesaf yn y pen draw gan ennill 5-4 dros y ddau gymal.
Pum mlynedd yn ddiweddarach ac roedd Shkëndija yn wynebu Hwlffordd yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres UEFA, ac fe lwyddodd Adar Gleision Sir Benfro i guro’r Macedoniaid ar giciau o’r smotyn yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddechrau tymor 2023/24.
Y Seintiau Newydd yw clwb mwyaf llwyddiannus Cymru yn Ewrop gan i’r clwb o Groesoswallt chwarae’n gyson ar y cyfandir ers 1996.
Llynedd fe lwyddodd y Seintiau i fynd heibio’r rowndiau rhagbrofol am y tro cyntaf erioed gan gystadlu yn rownd y gynghrair Cyngres UEFA ble chwaraeon nhw yn erbyn Panathinaikos a Fiorentina.
Mae’r Seintiau’n sicr o chwarae dwy rownd yn Ewrop eto eleni, a bydd y clwb yn benderfynol o ail-adrodd eu campau diweddar a chyrraedd Cyngres UEFA unwaith yn rhagor.
Bydd enillwyr y rownd hon yn wynebu FCSB (Rwmania) neu Inter Club d’Escaldes (Andorra) yn yr ail rownd ragbrofol, tra bydd y collwyr yn syrthio i Gyngres UEFA i herio FC Drita (Kosovo) neu FC Differdange (Lwcsembwrg).
Record YSN yn Ewrop:
Rowndiau: 50 (ennill 12, colli 38) / Gemau: 93 (ennill 20, cyfartal 16, colli 57)
Tro diwethaf: (2024/25) YSN yn llwyddo i fynd heibio’r rowndiau rhagbrofol am y tro cyntaf erioed gan gystadlu yn rownd y gynghrair Cyngres UEFA.
Hwlffordd (1) v (2) Floriana | Nos Iau, 17 Gorffennaf – 18:00 (Yn fyw arlein)
(Parc y Scarlets, Llanelli – Ail Gymal Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres UEFA 2025/26)
Bydd Hwlffordd yn eithaf rhwystredig gyda chanlyniad y cymal cyntaf gan ystyried bod yr Adar Gleision wedi mynd ar y blaen ym Malta cyn ildio funud cyn yr egwyl, ac yna colli’r gêm drwy gic o’r smotyn ddadleuol.
Peniodd Ben Ahmun i gefn y rhwyd i roi bechgyn Sir Benfro ar y blaen wedi llai na hanner awr, ond daeth Gonzalo Gamarra a’r sgôr yn gyfartal gyda peniad ei hun ben arall i’r cae yn hwyr yn yr hanner cyntaf.
Daeth y gôl ddadleuol, a’r gôl fuddugol ar yr awr pan bwyntiodd y dyfarnwr Szabolcs Kovacs o Hwngari at y smotyn gan ddynodi bod Alaric Jones wedi tynnu Lucas Lopez i’r llawr yn ystod cic gornel.
Gyrrodd Jake Grech ei ymdrech heibio i Luc Rees gan sicrhau’r fantais i’r clwb o Malta cyn yr ail gymal ar Barc y Scarlets.
Mae Hwlffordd wedi cyrraedd Ewrop am y trydydd tro yn eu hanes ar ôl gorffen y tymor diwethaf yn eu safle uchaf ers 21 o flynyddoedd drwy hawlio’r trydydd safle gyda record amddiffynnol orau’r gynghrair.
Mae Hwlffordd yn herio un o glybiau mwyaf llwyddiannus holl hanes Malta, sef Floriana, sydd wedi ennill y bencampwriaeth ar 26 achlysur.
Enillodd Floriana o 4-3 dros ddau gymal yn erbyn Aberystwyth yng Nghwpan Intertoto 1999, ond ers hynny dyw’r clwb m’ond wedi ennill dwy o’u 11 rownd yn Ewrop.
Bydd yr enillwyr yn camu ymlaen i wynebu Ballkani (Kosovo) yn ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA.
Record Hwlffordd yn Ewrop:
Rowndiau: 3 (ennill 1, colli 2) / Gemau: 7 (ennill 1, cyfartal 1, colli 5)
Tro diwethaf: (2023/24) Curo Shkëndija ar g.o.s (1-1 dros ddau gymal) cyn colli yn erbyn B36 Torshavn (2-3 dros ddau gymal).
Pen-y-bont (0) v (3) Kauno Žalgiris | Nos Iau, 17 Gorffennaf – 18:00 (Yn fyw arlein)
(Stadiwm Lecwydd, Caerdydd – Ail Gymal Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres UEFA 2025/26)
Roedd hi wastad am fod yn her i dîm Rhys Griffiths yn dechrau eu hymgyrch oddi cartref yn erbyn y tîm sydd ar frig cynghrair Lithwania, Kauno Žalgiris.
Ac er i’r Gleision gystadlu’n frwd am y chwarter awr agoriadol ni chafodd Pen-y-bont unrhyw gyfle clir mewn gwirionedd.
Daeth y gôl gyntaf wedi 18 munud wrth i Amine Benchaib yrru’n gyflym i lawr y chwith a tharo’r bêl ar draws wyneb y gôl, a’r bas honno’n gwyro’n greulon oddi ar Gabe Kircough i’w rwyd ei hun.
Roedd hi’n 2-0 chwe munud yn ddiweddarach wedi i gic rydd Gratas Sirgedas hedfan dros ben Luke Armstrong i gefn y rhwyd.
Llai na munud wedi’r egwyl ac fe sgoriodd Kauno Žalgiris eu trydedd trwy Damjan Pavlovic, ac aeth pethau o ddrwg i waeth i’r ymwelwyr pan welodd Mael Davies ei ail gerdyn melyn wedi 65 munud.
Mae gan Pen-y-bont fynydd i’w ddringo felly, ac roedd Rhys Griffiths yn siarad yn onest wedi’r gêm gan gyfaddef bod ei garfan wedi eu curo gan y tîm gorau ar y noson.
Dyw’r clwb o ddinas Kaunas, sef ail ddinas fwyaf Lithwania, erioed wedi ennill y bencampwriaeth yn y gorffennol, ond wedi dangos cysondeb trwy orffen yn y pedwar uchaf ym mhob un o’r chwe tymor diwethaf.
Dyw Kauno Žalgiris heb brofi fawr o lwyddiant ar y llwyfan Ewropeaidd ac fe gollon nhw o 10-1 dros ddau gymal yn erbyn Y Seintiau Newydd bedair blynedd yn ôl.
Bydd yr enillwyr yn camu ymlaen i wynebu Valur (Gwlad yr Ia) neu Flora Tallinn (Estonia) yn ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA.
Record yn Ewrop:
Rowndiau: 1 (ennill 0, colli 1) / Gemau: 3 (cyfartal 1, colli 2)
Tro diwethaf: (2023/24) Colli wedi amser ychwanegol yn erbyn Santa Coloma (1-3 dros ddau gymal).





