S4C

Navigation

Mae Cymru wedi colli yn erbyn Yr Iseldiroedd yng Nghynghrair y Cenhedloedd yng Nghaerdydd brynhawn nos Fercher, a hynny o 1-2.

Yn dilyn buddugoliaeth carfan Rob Page nos Sul  yn rownd terfynol gemau ail-gyfle y Cwpan y Byd roedd y gêm hon yn gyfle i chwaraewyr ifanc Cymru.

Roedd y cyfleoedd i ennill pwyntiau yn brin i’r ddau dîm yn ystod y hanner cyntaf.

Ond fe ddaeth y gêm yn fyw rhyw 10 munud i mewn i’r ail hanner wrth i Teun Koopmeiners roi Yr Iseldiroedd ar y blaen gydag ergyd i ochr y rhwyd.

Golygodd gôl ryngwladol gyntaf Rhys Norrington-Davies sgôr gyfartal o 1-1 wedi 90 munud o chwarae.

Ond sgoriodd Wout Weghorts y gôl fuddugol i’r Iseldiroedd eiliadau yn unig ar ôl i Norrington Davies unioni’r sgôr i Gymru.

Dyma’r tro cyntaf i dîm Cymru golli adref mewn 20 gêm.

Erthygl: Newyddion S4C

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?