S4C

Navigation

Heddiw (dydd Llun, 21 Rhagfyr), mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi cyhoeddi bod statws elitaidd pêl-droed y JD Cymru Leagues yng Nghymru wedi cael ei ddiddymu gan y Grŵp Chwaraeon Cenedlaethol – corff sy’n cynnwys cynrychiolaeth o Chwaraeon Cymru a’r Llywodraeth – ar ôl i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford roi Cymru o fewn gyfyngiadau lefel 4 Cynllun Rheoli’r Coronafeirws.

O ganlyniad i’r penderfyniad, bydd yr holl gemau a gweithgareddau sy’n cynnwys clybiau nad ydynt yn gwbl broffesiynol yn cael eu gohirio.

Mae’r penderfyniad yn effeithio’r cynghreiriau canlynol:
· JD Cymru Premier
· Uwch Gynghrair Merched Cymru Orchard
· JD Cymru North
· JD Cymru South

Cymru Premier JD wedi penderfynu gohirio gweddill gemau Ionawr

Er y caniateir gemau rhwng clybiau proffesiynol yn ystod Cyfnod Rhybudd Lefel 4, mae Cynghrair Cymru Premier JD wedi penderfynu na fydd unrhyw gemau yn digwydd ym mis Ionawr.

Datganiad y Gymdeithas Bêl-droed: https://www.cymrufootball.wales/news/alert-level-4-changes-made-elite-status-designation/

Mwy o wybodaeth ynglŷn â’r Coronafeirws: https://gov.wales/coronavirus

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?