S4C

Navigation

Taith i Belfast i’r Seintiau wrth i dîm Anthony Limbrick wynebu Linfield yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr.

 

Mewn seremoni cyhoeddi ym mhencadlys UEFA yn Nyon, Y Swistir fe cafodd enw Pencampwyr y Cymru Premier, Y Seintiau Newydd eu dewis allan o’r het i wynebu Linfield o Belfast, Gogledd Iwerddon yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr.

Bydd tîm Anthony Limbrick yn croesawu Linfield i Neuadd y Parc ar 5/6 Gorffennaf, cyn teithio i Windsor Park, Belfast ar 12/13 Gorffennaf.

Yng Nghyngres Europa cafodd enw Y Bala i’w dewis i wynebu Sligo Rovers o Gweriniaeth Iwerddon, gyda’r Drenewydd yn herio Havnar Bóltfelag o Ynysoedd y Ffaro.

Bydd Y Bala yn croesawu Sligo Rovers i Neuadd y Parc ar y 7fed Gorffennaf cyn i teithio i Iwerddon ar y 14eg Gorffennaf. gyda Robiniaid Y Drenewydd yn teithio i Ynysoedd y Ffaro ar y 7fed cyn croesawu HB i Gymru ar y 14eg Gorffennaf.

 

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?