Roedd hi’n benwythnos o seibiant i’r rhan fwyaf o glybiau’r Cymru Premier JD, ond mae pethau’n prysuro eto gyda pump o gemau cynghrair i’w chwarae yng nghanol wythnos.
Pum rownd o gemau sydd i fynd tan yr hollt yn y gynghrair a does dim ond chwe phwynt yn gwahanu’r pum clwb rhwng y 5ed a’r 9fed safle.
Bydd hi’n frwydr hollbwysig rhwng Cei Connah a Chaernarfon nos Fawrth felly, gyda dim ond dau bwynt yn gwahanu’r ddau dîm yng nghanol y tabl.
Yn hanesyddol, 31 pwynt yw’r swm sydd ei angen i hawlio lle’n y Chwech Uchaf, ac mae Pen-y-bont a’r Seintiau Newydd eisoes wedi pasio’r targed hwnnw, a dyw Hwlffordd a Met Caerdydd ddim rhy bell ar eu holau.
Ar ôl colled hwyr yn erbyn Y Seintiau Newydd yn eu gêm ddiwethaf, bydd y ceffylau blaen Pen-y-bont yn gobeithio osgoi bagliad arall mewn gêm galed yn erbyn Hwlffordd.
Ac ar waelod y tabl, bydd Aberystwyth yn anelu i gau’r bwlch o bedwar pwynt sydd rhyngddyn nhw â’r Fflint yn niogelwch y 10fed safle.
Nos Fawrth, 3 Rhagfyr
Cei Connah (7fed) v Caernarfon (6ed) | Nos Fawrth – 19:45
Chwaraeodd Cei Connah a Chaernarfon yn Ewrop dros yr haf ar ôl gorffen y tymor diwethaf yn yr hanner uchaf, ond mae’r ddau glwb ymhell o fod yn saff o’u lle yn y Chwech Uchaf eleni.
Dau bwynt sy’n gwahanu’r timau yn y 6ed a’r 7fed safle, ond mae gan Gaernarfon gêm wrth gefn.
Mae cynffonnau Cei Connah yn uchel ar ôl ennill tair o’u pedair gêm ddiwethaf, yn cynnwys buddugoliaeth gyfforddus o 3-0 oddi cartref yn Y Drenewydd brynhawn Sadwrn.
Mae bron i fis wedi mynd heibio ers i Gaernarfon chwarae ddiwethaf ar y 9fed o Dachwedd mewn buddugoliaeth o 1-0 oddi cartref yn Llansawel, gan ddod â rhediad o bum gêm heb ennill i ben.
Mae’r timau eisoes wedi cyfarfod ddwywaith y tymor hwn, gyda Cei Connah yn ennill gartref yng Nghwpan Nathaniel MG, a Chaernarfon yn ennill gartref yn y gynghrair.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ͏✅❌✅❌✅
Caernarfon: ❌❌➖❌✅
Llansawel (11eg) v Y Drenewydd (9fed) | Nos Fawrth – 19:45
Wedi buddugoliaeth syfrdanol yn erbyn Y Seintiau Newydd bythefnos yn ôl, Llansawel oedd y pedwerydd tîm i guro’r pencampwyr yn y gynghrair y tymor hwn.
Ond fel y tri clwb arall o’u blaenau, fe fethodd Llansawel ac ennill eu gêm ganlynol gan golli o 2-1 yn erbyn Y Fflint dridiau yn ddiweddarach (Pen-y-bont – curo’r Seintiau yna colli vs Llansawel, Y Bala – curo’r Seintiau yna cyfartal vs Llansawel, Caernarfon – curo’r Seintiau yna colli vs Drenewydd).
Mae’r Drenewydd wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhump o’r chwe tymor diwethaf, ac er iddyn nhw orffen yn 7fed yn nhymor 2020/21 fe aethon nhw ymlaen i ennill y gemau ail gyfle a chamu i Ewrop ar ddiwedd yr ymgyrch hwnnw.
Ond tydi’r sefyllfa ddim yn edrych mor addawol eleni gan bod y Robiniaid ar rediad o chwe gêm heb ennill ym mhob cytadleuaeth, ac wedi syrthio o’r trydydd i’r nawfed safle.
Roedd un gôl gan Aaron Williams yn ddigon i selio’r fuddugoliaeth i’r Drenewydd yn y gêm gyntaf erioed rhwng y ddau glwb ym mis Medi a bydd Callum McKenzie yn ysu am ganlyniad tebyg er mwyn ennill ei bwyntiau cyntaf i’r clwb ers cael ei benodi’n reolwr.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ❌✅❌✅❌
Y Drenewydd: ͏❌❌➖❌❌
Pen-y-bont (1af) v Hwlffordd (3ydd) | Nos Fawrth – 19:45
Bydd dau amddiffyn cryfaf y gynghrair yn cyfarfod yn Stadiwm Gwydr SDM nos Fawrth wrth i Ben-y-bont geisio dal eu gafael ar eu lle ar frig y tabl.
Gorffennodd y ddau glwb yma yn yr hanner isaf y tymor diwethaf, ond mae’r timau wedi codi’r safon y tymor hwn ac yn edrych yn hynod gyfforddus yn yr hanner uchaf.
Roedd hi’n ergyd drom i obeithion Rhys Griffiths o gipio’r bencampwriaeth o grafangau’r Seintiau pan sgoriodd Danny Redmond wedi 89 o funudau i selio triphwynt dramatig i gewri Croesoswallt yn eu gêm ddiwethaf (YSN 3-2 Pen).
Honno oedd colled gyntaf Pen-y-bont oddi cartref yn y gynghrair ers Rhagfyr 2023, sef eu hymweliad diwethaf â Neuadd y Parc (YSN 3-0 Pen).
Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 8 gôl mewn 17 gêm), ond dim ond y ddau isaf sydd wedi sgorio llai na’r Adar Gleision (20 gôl).
Dim ond 28 gôl sydd wedi ei sgorio yn 17 gêm gynghrair Hwlffordd y tymor hwn (cyfartaledd o 1.6 gôl y gêm) sy’n profi pa mor dynn yw gemau’r Adar Gleision eleni.
Mae tîm Tony Pennock yn anelu i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers i’r gynghrair gael ei chwtogi i 12 tîm gan nad yw’r Adar Gleision wedi gorffen yn uwch na’r 7fed safle ers tymor 2004/05 pan lwyddon nhw i gyrraedd y 4ydd safle.
31 o bwyntiau ydi’r swm arferol sydd ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf, a byddai pwynt i Hwlffordd nos Fawrth yn ddigon i gyrraedd y targed hwnnw.
Ond dyw Hwlffordd heb sgorio yn eu pedair gornest ddiwethaf yn erbyn Pen-y-bont, gyda bechgyn Bryntirion yn ennill o 1-0 ar dri achlysur, a’r gêm gynghrair ddiwethaf rhwng y timau’n gorffen yn ddi-sgôr.
Ac ers eu dyrchafiad yn ôl i’r Cymru Premier JD yn 2020 mae Hwlffordd wedi colli pob un o’u pum gêm gynghrair oddi cartref ym Mhen-y-bont.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ͏➖➖✅✅❌
Hwlffordd: ✅➖✅❌➖
Nos Fercher, 4 Rhagfyr
Y Bala (8fed) v Y Seintiau Newydd (2il) | Nos Fercher – 19:45
Mae’r Bala wedi sicrhau lle’n y Chwech Uchaf ym mhob un o’r 10 tymor diwethaf, ond mae Gwŷr Gwynedd mewn perygl o fethu’r nod eleni ar ôl rhediad o wyth gêm gynghrair heb ennill ers eu buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Y Seintiau Newydd ym mis Medi.
Mae chwe gêm gynghrair ddiwetha’r Bala wedi gorffen yn gyfartal, tra mae’r Seintiau Newydd yw’r unig dîm sydd heb gael dim un gêm gyfartal y tymor hwn.
Ym mis Medi fe sgoriodd Y Bala ddwy gôl wedi 92 a 97 o funudau i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf erioed oddi cartref yn erbyn Y Seintiau Newydd (YSN 2-3 Bala).
Ond fe gafodd y Seintiau ddial yng nghanol mis Tachwedd gan ennill o 3-1 gartref yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG.
Mae’n gyfnod prysur iawn i’r pencampwyr sydd yn paratoi am eu trydedd gêm o fewn wythnos ar ôl chwarae yng Nghyngres UEFA nos Iau (YSN 0-1 Djurgarden) ac yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG nos Sul (Barri 1-2 YSN).
Enillodd Y Seintiau Newydd o 7-0 ar Faes Tegid ym mis Ebrill 2019, ond ers hynny dyw’r pencampwyr m’ond wedi ennill pump allan o’u 10 gêm oddi cartref yn erbyn Y Bala (cyfartal 4, colli 1).
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ➖➖➖➖➖
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅❌✅
Y Fflint (10fed) v Aberystwyth (12fed) | Nos Fercher – 19:45
Bydd hi’n gêm allweddol yn y frwydr i osgoi’r cwymp rhwng Aberystwyth, sydd ar waelod y domen, a’r Fflint sydd bedwar pwynt uwch eu pennau yn niogelwch y 10fed safle.
Y penwythnos diwethaf fe lwyddodd Y Fflint i drechu Llansawel gan sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn y gynghrair ers dechrau mis Hydref, a’u triphwynt cyntaf ar Gae y Castell ers mis Medi.
Bydd Aberystwyth wedi cael hwb mawr i’w hyder ar ôl curo Caerdydd ddydd Sadwrn i hawlio eu lle yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG am y tro cyntaf yn eu hanes.
Elliott Reeves oedd yr arwr i’r Fflint yn y gêm gyfatebol ar Goedlan y Parc ym mis Medi, yn sgorio ddwywaith i sicrhau buddugoliaeth gyntaf y Sidanwyr ers eu dyrchafiad yn ôl i’r uwch gynghrair (Aber 0-2 Ffl).
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ͏❌❌❌❌✅
Aberystwyth: ͏✅❌❌✅❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.