S4C

Navigation

Hanner ffordd at yr hollt ac mae’r ras i gyrraedd y Chwech Uchaf yn dechrau nawr gyda holl dimau’r uwch gynghrair yn anelu am le yn yr hanner uchaf er mwyn sicrhau eu lle yn y gynghrair ar gyfer y tymor nesaf. 

 

 

Nos Fawrth, 17 Hydref 

 Caernarfon (4ydd) v Aberystwyth (12fed) | Nos Fawrth – 19:45  

 

Mae’n eithriadol o dynn yng nghanol y tabl gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r pedwar clwb rhwng y 4ydd a’r 7fed safle. 

 

Dyw Caernarfon a Pen-y-bont ond un pwynt uwchben Y Bala a Met Caerdydd yn y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf cyn yr hollt. 

 

Diffyg cysondeb yw gwendid Caernarfon ar hyn o bryd, gyda’r tîm wedi ennill a cholli bob yn ail yn eu saith gêm gynghrair ddiwethaf. 

 

Aberystwyth sy’n dal ar waelod y domen, ond ar ôl canlyniadau cadarnhaol yn erbyn Y Bala a Chei Connah yn ddiweddar bydd gobeithion y Gwyrdd a’r Duon wedi codi. 

 

Bydd Aber hefyd yn hyderus ar ôl eu buddugoliaeth hwyr yn erbyn Pontardawe yng Nghwpan Cymru dros y penwythnos (Aber 2-1 Pont), ond colli bu hanes y Cofis yn erbyn Cei Connah (Cei 4-1 Cfon). 

 

Mae Caernarfon eisoes wedi curo Aberystwyth unwaith y tymor hwn (Aber 2-4 Cfon), gyda Adam Davies a Zack Clarke yn sgorio dwy gôl yr un i’r Caneris ar Goedlan y Parc. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Caernarfon: ❌✅❌✅❌ 

Aberystwyth: ➖❌✅❌❌ 

 

Hwlffordd (9fed) v Pen-y-bont (5ed) | Nos Fawrth – 19:45 

 

Ar ôl haf arbennig yn Ewrop mae Hwlffordd wedi dechrau’n araf yn y gynghrair gan ennill dim ond dwy o’u 11 gêm y tymor hwn. 

 

Aberystwyth (25) yw’r unig dîm i ildio mwy o goliau na Hwlffordd (21) y tymor yma gyda’r Adar Gleision wedi cadw dim ond un llechen lân yn eu 10 gêm gynghrair ddiwethaf. 

 

Mae Pen-y-bont wedi plymio i’r 5ed safle ar ôl colli yn erbyn y ddau uchaf gan ildio wyth gôl dros y ddwy gêm (Cei 4-2 Pen, Pen 1-4 YSN). 

 

Sicrhaodd Hwlffordd a Pen-y-bont eu lle yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru ddydd Sadwrn, er bu rhaid i’r Adar Gleision ddibynnu ar ddoniau Zac Jones unwaith yn rhagor i guro Dreigiau Baglan ar giciau o’r smotyn, tra enillodd Pen-y-bont yn gyfforddus oddi cartref yn erbyn Cwmbrân Celtaidd (Cwm 0-3 Pen). 

 

Mae tîm Rhys Griffiths eisoes wedi trechu Hwlffordd y tymor hwn (Pen 2-0 Hwl), ond dyw Pen-y-bont heb ennill oddi cartref ar Ddôl y Bont ers tair blynedd pan sgoriodd y chwaraewr-reolwr ddwywaith yn Hydref 2020 (Hwl 0-4 Pen). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Hwlffordd: ❌✅➖❌❌ 

Pen-y-bont: ❌❌✅✅✅ 

 

Met Caerdydd (7fed) v Y Drenewydd (3ydd) | Nos Fawrth – 19:45 

Mae Met Caerdydd a’r Drenewydd wedi camu ymlaen i drydedd rownd y gwpan ar ôl buddugoliaethau argyhoeddiedig yn erbyn clybiau o’r haenau îs (Met Caerdydd 4-0 Cwmbrân, Y Felinheli 0-6 Y Drenewydd). 

 

Mae’r Drenewydd bellach ar rediad o wyth buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth, ac wedi cadw chwe llechen lân yn ystod y cyfnod hwnnw. 

 

Dyma rediad gorau’r Robiniaid yn y gynghrair ers 19 o flynyddoedd (7 buddugoliaeth yn olynol), ac wrth i Chris Hughes agoshau at ddathlu 10 mlynedd wrth y llyw ar Barc Latham bydd yn awyddus i barhau â’r rhediad rhagorol. 

 

Mae blaenwr Y Drenewydd, Aaron Williams ar dân, wedi sgorio chwe gôl yn ei dair gêm ddiwethaf ac yn gydradd brif sgoriwr y gynghrair gyda 10 gôl. 

 

Dyw Met Caerdydd ond wedi colli tair o’u 14 gêm ym mhob cystadleuaeth y tymor yma, ond daeth un o’r colledion rheiny oddi cartref yn erbyn y Robiniaid (colli vs YSN, Cei Connah a’r Drenewydd). 

 

Ond tydi’r Drenewydd heb ennill dim un o’u 11 gornest oddi cartref yn erbyn Met Caerdydd ar Gampws Cyncoed. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Met Caerdydd: ✅➖➖❌❌ 

Y Drenewydd: ✅✅✅✅✅ 

 

 Y Barri (11eg) v Pontypridd (8fed) | Nos Fawrth – 19:45 

 

Wedi dechrau siomedig i’r tymor bydd buddugoliaethau’r penwythnos wedi codi calon carfan Y Barri a Pontypridd gyda’r ddau dîm yn ennill 6-0 yn erbyn Porthcawl ac Abertyleri yn ail rownd Cwpan Cymru. 

 

Ond o ran y gynghrair, mae’r Barri’n parhau i fod yn y ddau safle isaf ar ôl ennill dim ond un o’u 11 gêm ers eu dyrchafiad (vs Bala) gan golli chwech o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf. 

 

Pontypridd sydd wedi sgorio’r nifer lleiaf o goliau hyd yma (4) gyda hanner o’r rheiny yn cael eu sgorio yn eu gêm gynghrair ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd (Pont 2-0 Hwl). 

 

Er hynny, dyw Ponty ddim yn ildio llawer (9) ac mae pump o’r goliau rheiny wedi eu sgorio gan Y Seintiau Newydd. 

 

Tîm Andrew Stokes oedd yn dathlu wedi’r gêm flaenorol rhwng y clybiau ym mis Medi, gyda Ben Ahmun yn rhwydo unig gôl y gêm o’r smotyn (Pont 1-0 Barr). 

  

Record cynghrair diweddar:  

Y Barri: ❌❌❌✅❌ 

Pontypridd: ✅❌❌❌➖ 

 

Nos Fercher, 18 Hydref 

 

Cei Connah (2il) v Y Bala (6ed) | Nos Fercher – 19:45 

Y Bala yw’r tîm diwethaf i guro Cei Connah ‘nôl ym mis Awst, ac ers hynny mae’r Nomadiaid wedi mynd ar rediad arbennig o naw gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth gan ennill wyth a chael un gêm gyfartal annisgwyl yn eu gêm gynghrair ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth (1-1). 

 

Mae’r ymosodwr Jordan Davies wedi dechrau’r tymor yn wych gan sgorio 10 gôl gynghrair a rhwydo hatric yn erbyn Caernarfon yng Nghwpan Cymru ddydd Sadwrn. 

 

Aeth Y Bala trwy gyfnod sigledig o saith gêm heb fuddugoliaeth hyd at ddiwedd mis Medi, ond ar ôl ennill dwy yn olynol yn erbyn Bae Colwyn a Llandudno bydd Colin Caton yn gobeithio bod ei dîm wedi troi’r gornel. 

 

1-0 i’r Bala oedd hi’n y gêm ddiwethaf rhwng y timau, gyda golwr y Nomadiaid Jon Rushton yn dyrnu’r bêl i’w rwyd ei hun yn erbyn ei gyn-glwb, a bydd hogiau Neil Gibson yn benderfynol o roi’r canlyniad honno y tu ôl iddyn nhw nos Fercher. 

 

Gyda’r Seintiau Newydd yn chwarae gêm gwpan yr wythnos yma, fe fyddai buddugoliaeth i Gei Connah yn cau’r bwlch ar y ceffylau blaen i ddim ond un pwynt. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Cei Connah: ➖✅✅✅✅ 

Y Bala: ✅❌❌❌➖ 

 

 Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?