Bydd gêm ail gyfle Cwpan y Byd FIFA 2022 rhwng Cymru ac Awstria i’w gweld yn fyw ar S4C.
Gyda’r Cymry yn anelu i gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, byddant yn croesawu Awstria i Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Iau 24 Mawrth 2022 yng ngêm rownd cyn derfynol y gemau ail gyfle.
Bydd y gêm yna yn cael ei ddangos yn fyw gan Sgorio Rhyngwladol.
Gyda’r Alban yn mynd benben â’r Wcrain yn y gêm rownd gynderfynol arall, bydd y ddau dîm buddugol yn cwrdd yn y rownd derfynol ar nos Fawrth 29 Mawrth 2022.
Ac os bydd Cymru yn llwyddo i ennill eu gêm rownd cyn derfynol a sicrhau lle yn y rownd derfynol, bydd Sgorio Rhyngwladol yn darlledu’r gêm yno yn fyw o Stadiwm Dinas Caerdydd.
Sgorio Rhyngwladol: Cymru v Awstria
Yn Fyw ar S4C ac S4C Clic
Nos Iau 24 Mawrth 2022