Curodd tîm merched Cymru Estonia 1-0 yn Parnu neithiwr, gyda Natasha Harding yn sgorio’r gôl fuddugol.
Mae tîm Gemma Grainger wedi ennill eu hail gêm yn olynol yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2023, gan drechu Kazakhstan 6-0 nos Wener (17 Medi).
Sgoriodd Natasha Harding wedi pum munud o chwarae, ar ôl pas gelfydd gan Jess Fishlock.
Cafodd y cochion sawl cyfle da i ddyblu eu mantais dros yr hanner, gyda Harding a Rhiannon Roberts yn dod yn agos, ond roedd amddiffyn Estonia yn gadarn yn wyneb yr ymosodiadau.
Fe sgoriodd Kayleigh Green cyn yr egwyl ond dyfarnwyd ei bod yn camsefyll.
Mae’r canlyniad yn golygu fod Cymru wedi cymryd chwe phwynt o’u dwy gêm agoriadol ac yn ail yn y grŵp.