S4C

Navigation

Fe sgoriodd Cymru yn hwyr yn y gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd yng Nghaerdydd nos Sadwrn i sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Gwlad Belg.

Fe rwydodd Ethan Ampadu yn yr hanner cyntaf ond roedd Joe Rodon yn camsefyll felly ni chaniatawyd y gôl.

Aeth Gwlad Belg ar y blaen yn yr ail hanner gyda gôl gan Youri Tielemans ar ôl 50 o funudau.

Daeth Brennan Johnson ar y cael i Gymru fel eilydd i Gareth Bale gan sgorio gôl ar ôl 86 munud.

Bu’n rhaid aros tra bod y dyfarnwr yn gwirio am amheuaeth o gamsefyll ond fe safodd y gôl – un gyntaf Johnson dros ei wlad.

Erthygl Newyddion S4C

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?