S4C

Navigation

Roedd hi’n gêm galed ond gyffrous yn Stadiwm Olimpico ddydd Sul, ac er gwaethaf holl ymdrechion y crysau cochion – fe gollodd Cymru o 1-0 yn erbyn yr Eidal.

Dyma oedd her olaf tîm Robert Page yn rownd y grwpiau, ac yn sicr y her fwyaf wedi i Ethan Ampadu weld cerdyn coch.

Er hyn, fe wnaeth Cymru sicrhau’r ail safle ac felly eu lle yn rowndiau nesaf y bencampwriaeth.

Bydd Cymru nawr yn gwrthwynebu’r tîm fydd yn ail yng Ngrŵp B yn Amsterdam ar ddydd Sadwrn 26 Mehefin – sef o bosib Rwsia, y Ffindir neu Ddenmarc.

Roedd yr 20 munud agoriadol yn ddigon anodd i Gymru, gyda phwysau cyson mewn gwres ac awyrgylch tanbaid y Stadiwm Olympaidd.

Roedd yr Eidal yn chwim a disgybledig, ac roedd hi’n anodd i’r crysau cochion ennill y meddiant ar brydiau.

Daeth cic gornel gyntaf y gêm wedi 26 munud – a chroesiad Daniel James yn darganfod pen Chris Gunter, ond y bêl yn gwibio dros y trawst.

Dri munud yn ddiweddarach daeth cic gornel gyntaf yr Eidal, ond fe lwyddodd Cymru i atal y bygythiad.

Doedd yr Eidal heb golli gêm yn y stadiwm ers 68 o flynyddoedd, ac roedd y crysau gleision yn edrych yn gyfforddus ar y bêl, heb awgrym yn yr hanner cyntaf eu bod am weld y record ryfeddol honno’n dod i ben.

Gyda 38 munud ar y cloc, fe sgoriodd yr Eidal o gic osod – Matteo Pessina, yn rhoi’r fantais i’r tîm cartref yn dilyn trosedd gan Joe Allen.

Roedd hanner amser yn rhyddhad i ddynion Robert Page, ac er y sgôr, fe fyddai Cymru wedi bod yn weddol fodlon ar y cyfan.

Yn y gêm arall yng Ngrŵp A roedd y Swistir yn curo Twrci 2-0 ar yr hanner, gan gynyddu’r pwysau ar Gymru yn y 45 munud olaf.

Byddai buddugoliaethau sylweddol i’r Eidal a’r Swistir yn golygu trydydd safle i Gymru.

Gwahaniaeth goliau oedd ar feddwl y cefnogwyr ac roedd pum gôl yn ddigon i newid canlyniad y grŵp. Ar yr hanner roedd y Swistir wedi hawlio dwy o’r pump, ac roedd ail safle Cymru’n teimlo ychydig yn fregus.

Yr unig newid ar yr hanner oedd Francesco Acerbi ymlaen yn lle Bonnuci i’r Eidal. Dechreuodd yr Azzuri yr un mod hyderus gyda Chymru’n cael eu gwasgu’n ôl yn gyson a’r meddiant yn anodd ei gadw.

Daeth cerdyn melyn cyntaf y gêm i Joe Allen wedi 50 munud am ei drosedd ar ochr cwrt cosbi Cymru. Bu bron i’r Eidal ddyblu eu mantais wrth i gic Bernadeschi daro’r postyn.

Funudau’n ddiweddarach fe gafodd Cymru gyfle gwych – Allen y tro hwn yn methu gweu’r bêl o ongl gul heibio golwr yr Eidal. Daeth ergyd drom i gyfleoedd Cymru wedi 55 munud – Ethan Ampadu yn hwyr gyda’i dacl ar Bernadeschi.

Roedd yn amser am newid tactegau ar ôl i Ampadu adael y cae, gyda mynydd i’w ddringo. Ar ôl 59 munud fe gafodd Morell ei eilio am Kieffer Moore.

Daeth cyfle prin i Gymru wedi 61 munud – ond cic gosb Daniel James yn gwyro i ganol môr o grysau gleision. Funud yn ddiweddarach fe ddaeth y newyddion fod Twrci wedi sgorio yn erbyn y Swistir – gan blannu hadyn o obaith ym meddyliau cefnogwyr Cymru.

Ar ôl 67 munud fe ddaeth y newydd fod y Swistir wedi taro’n ôl yn erbyn Twrci – 3-1 oedd y sgôr bellach a dwy gôl yn unig oedd yn y fantol wrth ystyried gwahaniaeth goliau rhwng Cymru a’r Swistir.

Daeth Harry Wilson ar y cae i Gymru yn lle Daniel James wedi 73 munud, ac fe welodd yr Eidal eu cyfle i eilyddion hefyd.

Funud yn ddiweddarach daeth cyfle gwych i Gymru – Gareth Bale ar ben ei hun i dderbyn croesiad o ochr y cwrt cosbi – ond ei ergyd yn methu dod o hyd i’r targed.

Fe welodd Gunter gerdyn melyn am drosedd wedi 79 o funudau. Roedd Cymru’n drefnus erbyn hyn, a dylanwad Moore ers iddo ddod ar y cae yn amlwg. Parhau oedd y pwysau ac fe gafodd yr Eidal giciau cornel ar 81 ag 83 munud ond llwyddodd Cymru i amddiffyn yn arwrol.

Daeth Brooks, Levitt a Ben Davies ymlaen wedi 84 munud, gyda Gareth Bale, Neco Williams a Joe Allen yn dod oddiar y cae.

Eilyddio eu golwr wnaeth yr Eidal ar ôl 89 o funudau, ac roedd pob eiliad o amddiffyn yn teimlo’n arteithiol o hir i Gymru – gyda thri munud o amser ychwanegol i’w chwarae.

Fe wnaeth Danny Ward arbediad gyda blaen ei fysedd i wyro’r bêl o geg y gôl gyda munud a hanner yn weddill.

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?