Cymru yn cipio pwynt yn erbyn y Swistir yn eu gêm agoriadol yn Euro 2020 yn Baku.
Dechreuodd Y Swistir yn dda, gan reoli rhan fwyaf o’r meddiant ond daeth y cyfle gorau i Gymru wedi 15 munud – peniad nerthol Kieffer Moore yn cael ei harbed gan Yann Sommer yn y gôl.
Munudau yn ddiweddarch, cafodd Danny Ward ei orfodi i wneud arbediad arbennig wedi ymdrech Fabian Schar i sgorio oddi ar gic gornel.
Ar ôl hanner awr o chwarae, cafodd Fabian Schar gerdyn melyn ar ôl baglu Dan James yn ystod rhediad ar ymyl y cwrt cosbi.
Yna, cyn yr egwyl – Serefovic yn taro ergyd o 20 llath, a Danny Ward yn falch o weld yr ergyd yn hedfan dros y trawst. Serefovic yn bygwth eto ond ei ergyd yn hedfan dros y trawst, a’r hanner cyntaf yn gorffen yn ddi-sgôr.
Daeth y gôl pedair munud fewn i’r ail hanner, Breel Embolo yn penio’r bêl o gic gornel a’r Swistir ar y blaen o 0-1.
Funudau ynghynt, cafodd Danny Ward ei orfodi i wneud arbediad campus arall i atal Breel Embolo rhag sgorio.
Daeth cyfle arall i Gymru wrth i Ramsey groesi i’r cwrt cosbi o gic rydd, ond neb o Gymru yn medru cyrraedd y bêl.
Fe ddaeth y gôl hollbwysig oddi ar gic gornel fer ar ôl 74 munud – Joe Morrell yn croesi i lwybr Moore a’r blaenwr mawr yn penio’r bêl heibio Sommer i ddod â Chymru yn gyfartal.
Roedd yna ofnau bod Mario Gavranović wedi sgorio’r ail i’r Swistir funudau yn ddiweddarach, ond fe ddaeth technoleg VAR i’r adwy a dweud nad oedd hi’n cyfri.
Roedd Embolo yn bygwth eto – peniad gwych ond Danny Ward yn ei gwthio dros y trawst!
Y gêm yn gorffen yn gyfartal 1-1. Mae’r canlyniad yn gadael Cymru’n ail yng ngrŵp A a’r Swistir yn drydydd, gyda’r Eidal ar y brig â thriphwynt ar ôl curo Twrci sydd ar y gwaelod.
Twrci yw gwrthwynebwyr nesaf Cymru a hynny am 5.00 ddydd Mercher, cyn teithio i Rufain i wynebu’r Eidal ddydd Sul, 20 Mehefin – y cyfan yn fyw ar S4C.