S4C

Navigation

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i dîm pêl-droed Cymru ar ôl colli 2-0 oddi cartref yn erbyn Twrci nos Lun.

Ar ôl colled annisgwyl yn erbyn Armenia nos Wener, fe wnaeth gobeithion y Cymry o gyrraedd Euro 2024 dderbyn ergyd arall ar ôl colli am yr eildro mewn pedwar diwrnod yn eu grŵp rhagbrofol.

Mi fydd y canlyniadau hynod siomedig yn cynyddu’r pwysau ar ysgwyddau rheolwr Cymru, Rob Page, wedi un fuddugoliaeth yn 12 gêm ddiwethaf y tîm.

Yng nghrochan Stadiwm Samsun, y tîm cartref ddechreuodd ar y droed flaen ac fe wnaethon nhw reoli’r meddiant am gyfnodau hir yn ystod yr hanner cyntaf.

Fe gafodd Cymru gyfle yn y chweched munud ar ôl llwyddo i ryddhau Brennan Johnson mewn gwrth ymosodiad, ond fe darodd ei ergyd mewn i ochr y rhwyd.

Roedd Twrci yn credu eu bod wedi mynd ar y blaen ar ôl naw munud, ar ôl i amddiffynnwr Cymru Chris Mepham gyfeirio’r bêl fewn i rwyd ei hun ar ôl croesiad peryglus; ond ar ôl cyfnod hir o ystyried gan y VAR, penderfynwyd nad oedd y gôl yn un dilys ar sail camsefyll yn gynharach yn y symudiad – mawr i ryddhad Mepham.

Roedd y gêm yn fratiog ar adegau, gyda Thwrci methu â manteisio ar eu meddiant, a Chymru yn cael hi’n anodd rhoi unrhyw ymosodiad o safon at ei gilydd.

Ond daeth trobwynt y gêm ar ôl 41 munud, wedi i Joe Morrell dderbyn cerdyn coch.

Wrth gystadlu am y bêl tu allan i gwrt cosbi Twrci, fe wnaeth y chwaraewr canol cae chysylltu â choes Ferdi Kadioglu gyda’i stydiau, gan adael y dyfarnwr heb ddewis ond ei anfon o’r maes.

Fe arbedodd Danny Ward ergydion gan Cengiz Under ac Orkun Kokcu wrth i Dwrci gynyddu’r pwysau ar ddeg dyn Cymru yn ystod amser ychwanegol yr hanner cyntaf, ond di-sgôr oedd y gêm ar hanner amser.

Ton ar ôl Ton

Daeth Ben Cabango ymlaen fel eilydd ar ddechrau’r ail hanner yn lle Johnson, oedd wedi bod yn brwydro gydag anaf.

Cafodd y Cymry ddechreuad calonogol i’r ail hanner, gyda Dan James yn gweithio’n hynod o galed i roi amddiffyn Twrci dan bwysau gyda’i gyflymdra.

Bu bron i Harry Wilson rhoi Cymru ar y blaen ar ôl 48 munud gyda chic rydd odidog o 30 llathen, ond fe lwyddodd y golwr Mert Gunok atal y bel rhag hedfan i gongl uchaf y rhwyd.

Wrth i Dwrci barhau i wthio Cymru yn ôl, fe wnaethon nhw ennill cic o’r smotyn wedi 63 munud o chwarae, ar ôl i oroesiad gan Kadioglu daro penelin y capten, Aaron Ramsey.

Daeth Ward i’r adwy i arbed cic Hakan Calhanoglu yn wych, gan hedfan i’w dde i atal ymdrech capten Twrci.

A thro VAR oedd hi i achub Cymru unwaith eto ar ôl 69 munud, wedi i Umut Nayir lawio’r bêl cyn sgorio heibio Ward – ond ni chafodd y gôl ei ganiatáu.

Tri munud yn ddiweddarach, fe lwyddodd Twrci i sgorio gôl ddilys o’r diwedd, gyda Nayir yn rhwydo gyda pheniad pwerus, er gwaethaf ymdrechion gorau Ward i’w gadw allan.

Fe wnaeth Twrci ddyblu eu mantais ar 80 munud ar ôl i’r eilydd Arda Guler crymanu’r bêl yn hyfryd i gongl uchaf y rhwyd o du allan i’r cwrt cosbi.

Roedd hynny yn ddigon i Dwrci hawlio’r triphwynt, gan adael Cymru yn waglaw.

Maen nhw nawr yn y pedwerydd safle yng Ngrŵp D gyda phedwar pwynt, ar ôl chwarae mewn hanner o’u gemau rhagbrofol.

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?