Bydd y pencampwyr Cei Connah yn dechrau tymor JD Cymru Premier 2020/21 yn fyw ar S4C prynhawn Sadwrn, wrth i bartner darlledu’r gynghrair gyhoeddi gemau byw cynta’r tymor.
Bydd Sgorio yn darlledu un gêm o bob rownd y tymor yn ystod mis Medi a dechrau mis Hydref, naill ai ar deledu neu ar-lein. Bydd naw gêm yn cael eu dangos yn ystod y mis cyntaf, gan gynnwys gwe ddarllediadau o gemau ganol wythnos. Yn ogystal, bydd dwy raglen uchafbwyntiau wythnosol yn dangos y gorau o holl gemau’r penwythnos.
Ar ôl cipio tlws y gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes y tymor diwethaf, bydd y Nomadiaid yn dechrau’r tymor hwn gyda gêm gartref yn erbyn y Bala, ar nos Sadwrn 12 Medi gyda’r gic gyntaf am 5.45pm o flaen camerâu Sgorio.
Ar nos Fawrth 15 Medi, bydd gêm gartref Y Drenewydd yn erbyn Caernarfon yn cael ei dangos yn fyw ar-lein am 7.45pm, ar dudalen Facebook Sgorio ac ar S4C Clic.
Mae’r ddau dîm enillodd ddyrchafiad i’r adran uchaf, Hwlffordd a’r Fflint, hefyd yn cael eu dangos yn fyw yn wythnos cynta’r tymor.
Bydd Adar Gleision Hwlffordd, enillodd ddyrchafiad yn y de, yn ymddangos yn fyw o Ddôl y Bont ar S4C ar Nos Sadwrn 19 Medi yn erbyn y Drenewydd.
Y Fflint sy’n llenwi’r slot byw olaf, wrth groesawu’r Barri i Lannau Dyfrdwy ar Nos Sadwrn 26 Medi, gyda chic gyntaf y ddwy gêm am 5.45pm.
Bydd Y Bala yn croesawu’r Seintiau Newydd i Faes Tegid ar nos Fawrth 30 Medi ac mi fydd y gêm yna i’w weld yn fyw ar dudalen Facebook Sgorio ac ar S4C Clic am 7.45pm.
Gyda Dylan Ebenezer wrth y llyw a Nicky John ar yr ystlys ar gyfer y gemau teledu byw, bydd tîm Sgorio’n cynnwys y cyn-chwaraewyr rhyngwladol Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones, tra bydd y ddau gyn-reolwr, Mark Jones a Tomi Morgan, yn darparu’r adloniant a’r sylwebaeth Saesneg ar y botwm coch.
Yn ogystal â Sgorio Stwnsh, y rhaglen uchafbwyntiau sydd i’w gweld pob nos Lun, bydd ail raglen uchafbwyntiau wythnosol, Mwy o Sgorio, ymlaen bob nos Fercher, yn dangos holl goliau o gemau’r penwythnos ac o ganol yr wythnos, ynghyd â chyfweliadau gyda’r hyfforddwyr a’r chwaraewyr.
Bydd Sgorio hefyd yn ffrydio’r gêm yng Nghynghrair Europa UEFA rhwng Standard Liege a’r Bala yn fyw ar dudalen Facebook Sgorio ac ar S4C Clic, am 6.55pm ar nos Iau 17 Medi.