Bydd Y Seintiau Newydd yn croesawu FC Viktoria Plzeň o’r Weriniaeth Tsiec i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau ar gyfer trydedd rownd ragbrofol Cyngres Europa
Llwyddodd Y Seintiau i hawlio eu lle yn y drydedd rownd ragbrofol ar ôl curo Glentoran 3-1 (dros ddau gymal) yn y rownd ragbrofol gyntaf a FK Kauno Žalgiris 10-1 (dros ddau gymal) yn yr ail rownd ragbrofol.
Erbyn hyn mae’r Seintiau dim ond dau rownd i ffwrdd o gyrraedd cystadleuaeth newydd Uefa, Cyngres Europa – gyda buddugoliaeth yn y drydedd rownd yn gyrru’r Seintiau i’r gemau ail gyfle am le yn y brif gystadleuaeth.
Bydd tîm Anthony Limbrick yn wynebu Plzeň, clwb orffennodd yn y 5ed safle yn Uwch Gynghrair y Weriniaeth Tsiec y tymor diwethaf.
Ers ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn 2005, mae’r clwb wedi ennill yr Uwch Gynghrair ar bum achlysur ers 2011 – y tro diwethaf yn 2017/18.
Un o chwaraewyr y Seintiau sy’n creu enw i’w hun mewn gemau Ewropeaidd yw Leo Smith. Mae’r chwaraewr canol cae wedi sgorio chwe gôl mewn chwe gêm Ewropeaidd i’r Seintiau ers ymuno â’r clwb yn 2020.
Michael Wilde, cyn ymosodwr Y Seintiau sy’n dal y record am goliau Ewropeaidd gan chwaraewr o’r Cymru Premier gyda saith gôl.
Bydd Y Seintiau yn wynebu Plzeň yn y cymal cyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Iau, 5ed Awst am 7.45 cyn teithio i’r Weriniaeth Tsiec am yr ail gymal ar y 12fed o Awst.