S4C

Navigation

Cyngres Europa: Y Seintiau Newydd 4-2 Plzeň

Hat-tric McManus yn helpu’r Seintiau i fuddugoliaeth dros Plzeň yng nghymal cyntaf trydedd rownd ragbrofol Cyngres Europa.

 

Y Seintiau Newydd yn curo Plzeň 4-2 yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau 5 Awst.

Sgoriodd Declan McManus ddwywaith o’r smotyn cyn selio’i hat-tric a sicrhau mantais o ddwy gôl i’r Seintiau Newydd cyn yr ail gymal yn y Weriniaeth Tsiec wythnos nesaf.

 

Fe agorodd Blaine Hudson y sgorio wedi 19 munud gyda pheniad nerthol cyn i’r Albanwr, McManus sgorio o’r smotyn wedi 30 munud o chwarae i sicrhau mantais o 2-0 i’r Seintiau ar yr egwyl.

Roedd Y Seintiau 4-0 ar y blaen gyda 89 munud o chwarae, ond i Beauguel a Ba Loua sgorio yn amser ychwanegol i’r ymwelwyr a cau’r bwlch i ddwy gôl yn unig.

Roedd Anthony Limbrick, rheolwr Y Seintiau, yn siomedig wrth ildio ddwywaith mor hwyr – ond roedd rhaid canmol ei dîm ar ôl curo yn erbyn tîm llwyddodd i guro Roma o 2-1 yng Nghynghrair y Pencampwyr yn 2018.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae nos Iau, 12 Awst.

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?