S4C i ddarlledu pob un o gemau Cymru yn nhwrneimant Cynghrair y Cenhedloedd UEFA yn fyw.
Gyda’r gystadleuaeth bêl-droed ryngwladol Cynghrair y Cenhedloedd UEFA 2020 yn cychwyn mis nesaf, bydd pob un o gemau Cymru yn fyw ar S4C.
Gyda Chymru yn cystadlu yng ngrŵp B4, bydd Ryan Giggs a’i dîm yn chwarae gartref ac oddi gartref yn erbyn y Ffindir, Gweriniaeth Iwerddon a Bwlgaria dros y misoedd nesaf.
Bydd y pedwar tîm yn herio’i gilydd, gyda’r nod o orffen ar frig y grŵp a hawlio’u lle yng Nghynghrair A, sef haen uchaf y gystadleuaeth, ble mae’n bosib cystadlu am y brif bencampwriaeth.
Bydd Cymru yn cychwyn eu hymgyrch ar nos Iau 3 Medi gyda gêm oddi gartref yn erbyn y Ffindir, gyda’r gic gyntaf am 7.45pm. Yna, ar ddydd Sul 6 Medi, bydd y Dreigiau yn dychwelyd gartref i Stadiwm Dinas Caerdydd i groesawu Bwlgaria, gyda’r gêm yn cychwyn am 2.00pm.
Ar ddydd Sul 11 Hydref, bydd y Cymry yn teithio i herio Gweriniaeth Iwerddon am 2.00pm, cyn wynebu gêm oddi cartref yn erbyn Bwlgaria dridiau yn ddiweddarach, ar nos Fercher 14 Hydref, am 7.45pm.
Bydd Cymru yn cwblhau eu gemau grŵp ym mis Tachwedd gyda dwy gêm gartref; yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ar nos Sul 15 Tachwedd am 5.00pm, cyn eu gêm olaf yn erbyn y Ffindir, am 7.45pm ar nos Fercher 18 Tachwedd.
Fe fydd holl gemau Cymru yn cael eu dangos yn fyw ar S4C, gyda chriw profiadol Sgorio yn tywys gwylwyr drwy’r ymgyrch gyfan.
Dyddiadau’r gemau:
Y Ffindir v Cymru
Nos Iau 3 Medi – 19:45
Cymru v Bwlgaria
Prynhawn Sul 6 Medi – 14:00
Gweriniaeth Iwerddon v Cymru
Prynhawn Sul 11 Hydref – 14:00
Bwlgaria v Cymru
Nos Fercher 14 Hydref – 19:45
Cymru v Gweriniaeth Iwerddon
Prynhawn Sul 15 Tachwedd – 17:00
CYMRU v Y Ffindir
Nos Fercher 18 Tachwedd – 19:45