S4C

Navigation

Bydd Cymru yn nodi canfed gem Gareth Bale gyda buddugoliaeth 5-1 gwych yn erbyn Belarws yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

Roedd hi’n ddechreuad perffaith i Gymru wrth i Aaron Ramsey sgorio o fewn dau funud ar ôl  i ergyd Ben Davies gael ei wthio’n syth o’i flaen gan y gôl-geidwad.

Roedd Cymru ar y blaen o ddwy gôl o fewn 20 munud ar ôl i gic Neco Williams cropian i’r rhwyd yn dilyn arbediad gwan arall o’r golwr.

Fe adawodd Bale cae Stadiwm Dinas Caerdydd dros yn yr hanner anser wedi iddo chwarae’i funudau cyntaf ers dychwelyd o anaf i’w linyn y gar.

Ni chafodd hyn effaith ar berfformiad Cymru serch hynny – sgoriodd Ramsey ei hail trwy gic o’r smotyn tair munud i fewn i’r ail hanner.

Parhaodd awydd Cymru i ymosod trwy gydol yr ail hanner a daeth pedwaredd gôl chwarter awr cyn y chwiban olaf wrth i Ben Davies sgorio am y tro cyntaf i’w wlad.

Daeth gol gorau’r gêm o’r ymwelwyr pan gafodd y Wal Goch eu synnu gan ymdrech wych Artem Kontsevoi 20 metr o’r rhwyd yn y pum munud olaf.

Ond gyda Chymru oedd yr air olaf wrth i Connor Roberts sgorio pumed gôl i’r crysau cochion funud cyn amser llawn.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Cymru i’r ail safle yng Ngrŵp E, tri phwynt o flaen y Weriniaeth Siec.

Mae’r canlyniad campus hefyd yn golygu bod gan Gymru fantais o ddwy gôl dros y Sieciaid – sydd yn wynebu Estonia wythnos nesaf.

Fe fydd Cymru nawr yn herio arweinwyr y grŵp Gwlad Belg dydd Mawrth lle byddai gêm gyfartal yn sicrhau ail safle yn y grŵp a llwybr haws yn y gemau ail-gyfle.

 

Erthygl gan Newyddion S4C

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?