Mae Cymru wedi curo Twrci eu hail gêm ym mhencampwriaeth Euro 2020 yn Baku, Azerbaijan.
Fe all y fuddugoliaeth nos Fercher rhoi’r cyfle iddynt ennill lle yn rownd yr 16 olaf.
Aaron Ramsey aeth a gôl gyntaf y gêm, gyda Connor Roberts yn sicrhau mantais gadarn gyda ail gôl y noson yn ystod y munudau olaf.
Yn siarad wedi’r gêm, dywedodd Ben Davies fod y garfan yn “haeddu’r” fuddugoliaeth, gan ychwanegu fod gan Gymru “llawer mwy” i’w gynnig.
Y Gêm
Roedd hi’n ddechrau da i Gymru a Thwrci, gyda’r ddau dîm yn methu cyfle yn y munudau cyntaf.
Yn yr hanner awr gyntaf o chwarae daeth nifer o gynigion gwag i’r ddau dîm, gyda pheniad gan Kieffer Moore yn methu’r rhwyd, ac yna arbediad sydyn gan Ward funudau yn ddiweddarach.
Methodd Ramsay gynnig arall am gôl gyda’r cloc ar 25 o funudau.
Twrci fu’n rheoli’r rhan fwyaf o’r hanner, tan i Aaron Ramsey gael ei haeddiant gyda gôl, wedi cic trwodd gan Bale.
Tri chynnig i Gymro, felly!
Cymru ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf, Twrci 0 – 1 Cymru.
Mewn ail hanner a ddechreuodd yn gadarn, doedd Twrci ddim yn mynd i wneud pethau’n hawdd i ochr Rob Page.
Ddeng munud i mewn ac fe geisiodd Aaron Ramsay am ei ail gôl – ond cafodd ei threchu gan arbediad gan Ugurcan Cakir.
Mewn cyfle a allai fod yn euraidd i Gymru, mi fethodd Bale gic gosb, gyda’r bêl yn bell uwchben y rhwyd.
Methu peniad arall wnaeth Bale, gyda Ramsay yn arbed cynnig gan Twrci funudau yn ddiweddarach.
Cafodd peniad gan Merih Demiral ei harbed gan Ward – cyn i bethau fynd yn chwyrn funudau cyn y chwiban olaf.
Connor Roberts yn sgorio’r ail gôl i Gymru.
Y sgôr terfynol: Twrci 0 – Cymru 2
Y Garfan
Ward, Roberts, Mepham, Rodon, B. Davies, Allen, Morrell, Ramsey, James, Moore, Bale (Capten)
Eilyddion
Hennessey, A. Davies, Gunter, N. Williams, Lockyer, Ampadu, Norrington-Davies, J. Williams, Brooks, Levitt, T.Roberts, Wilson