Mae Cymru ar frig eu grŵp Cynghrair y Cenhedloedd ar ôl curo Gweriniaeth Iwerddon o 1-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul.
Bydd pwynt yn ddigon i Gymru nos Fercher yn erbyn Y Ffindir i ennill Grŵp 4 Cynghrair B ac i ennill dyrchafiad i Cynghrair A.
Dyw Cymru heb golli yn eu 10 gêm gystadleuol ddiwethaf, gan gadw 7 llechen lân yn olynol yn y gemau hyn.
Sgoriodd David Brooks unig gôl y gêm wedi 66’, peniad yn y cwrt chwech wedi chwarae da gan Neco Williams i groesi, Kieffer Moore i ddenu’r amddiffynwyr a Gareth Bale i benio i lwybr Brooks.
Bydd Cymru yn croesawu’r Ffindir i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fercher, 18 Tachwedd gyda’r gêm yn fyw ar S4C am 7.25