S4C

Navigation

Bydd Sgorio yn dangor y ddwy gêm gyfeillgar cyn i Gymru gystadlu ym mhencampwriaeth Euro 2020 yn fyw ar S4C.

 

Bydd Sgorio yn dangor y ddwy gêm gyfeillgar cyn i Gymru gystadlu ym mhencampwriaeth Euro 2020 yn fyw ar S4C.

Ar nos Fercher 2 Mehefin, bydd Cymru yn herio pencampwyr y byd, Ffrainc, yn Nice, gyda’r gic gyntaf am 8.05yh.

Ac ar nos Sadwrn 5 Mehefin, bydd Cymru yn croesawu Albania i Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Sadwrn 5 Mehefin am 5.00yh, yn eu gêm olaf cyn UEFA EURO 2020.

Yn ogystal â’r gemau cyfeillgar bydd Sgorio yn dangos gêm agoriadol Cymru dan 21 yn eu hymgyrch ragbrofol Euro 2023.

Bydd tîm Paul Bodin yn wynebu Moldofa dan 21 yn fyw ar lwyfannau cymdeithasol Sgorio (Facebook/Youtube ac S4C Clic) nos Wener 4 Mehefin am 7.30yh.

 

Euro 2020

Bydd holl gemau tîm pêl-droed Cymru yn ystod UEFA EURO 2020 yr haf yma i’w gweld yn fyw, yn Gymraeg, ar S4C a S4C Clic.

Bydd Cymru yn cychwyn eu hymgyrch yn Baku, Azerbaijan ar ddydd Sadwrn 12 Mehefin, yn erbyn y Swistir, am 2.00yh.

Ar ddydd Mercher 16 Mehefin, bydd y Dreigiau yn chwarae eu hail gêm, yn erbyn Twrci, yn Baku, gyda’r gic gyntaf am 5.00yh.

Yna, bydd Cymru yn teithio i Rufain ar gyfer eu gêm grŵp olaf, yn erbyn Yr Eidal, ar ddydd Sul 20 Mehefin, am 5.00yh. BBC Cymru fydd yn cynhyrchu arlwy S4C o UEFA EURO 2020.

Dywedodd y cyflwynydd, Dylan Ebenezer: “Mae’n fraint i gael bod yn rhan o dîm S4C ar gyfer UEFA EURO 2020. Mae gan bawb atgofion melys o be’ ddigwyddodd yn Ffrainc yn ystod haf 2016. Mae cryn dipyn wedi newid ers hynny wrth gwrs, ond mae cefnogaeth y Wal Goch, boed yn y stadiwm neu gartref, wedi bod yn gyson ers hynny ac yn rhywbeth mae’r chwaraewyr wir yn teimlo a gwerthfawrogi.

“Mae’r tîm wedi perfformio’n dda iawn i ennill ei lle yn y bencampwriaeth, a gyda’r holl chwaraewyr ifanc yn cyfuno gyda’r hen bennau fel Bale, Ramsey ac Allen, mae yna botensial mawr yn y garfan bresennol. Yn bersonol, allwn i ddim disgwyl am yr Ewros, a gobeithio gallwch chi ymuno â ni am y cyfan ar S4C.”

 

UEFA EURO 2020
Pob gêm Cymru yn fyw
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill

 

 

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?