Cymru yn fyw ar S4C
Cymru v Belarws a Cymru v Gwlad Belg yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 yn fyw ar S4C
Bydd y ddwy gêm olaf yn ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd 2022 yn fyw ar S4C, gyda’r tîm rhyngwladol yn croesawu Belarws i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn a Gwlad Belg nos Fawrth.
Bydd hi’n dipyn o achlysur nos Sadwrn, gyda Cymru wedi cadarnhau eu lle yng ngemau ail gyfle ar gyfer lle yn Cwpan y Byd 2022 ar ôl ennill ei grŵp Cynghrair y Cenhedloedd a chanlyniadau yn mynd o’u plaid yn y gemau rhagbrofol.
Hefyd, mae Gareth Bale wedi bod yn ymarfer gyda’r garfan drwy’r wythnos, gyda seren Real Madrid ar drothwy ennill ei 100fed cap.
Mae Aaron Ramsey a Joe Allen yn holliach ar gyfer y gemau, felly bydd sêr Cymru i gyd ar gael ar gyfer y gemau – er bydd Kieffer Moore, ymosodwr Caerdydd yn methu’r gêm yn erbyn Belarws oherwydd ei fod wedi ei wahardd.
Gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 yn fyw ar S4C
13/11 – Cymru v Belarws yn fyw am 7.15 gyda’r gic gyntaf am 7.45
16/11 – Cymru v Gwlad Belg – yn fyw am 7.25 gyda’r gic gyntaf am 7.45