S4C

Navigation

Mae Cymru wedi ennill eu grŵp Cynghrair y Cenhedloedd gan ennill dyrchafiad i Gynghrair A ar ôl y fuddugoliaeth 3-1 dros Y Ffindir yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Dyw Cymru heb golli gêm yn yr ymgyrch, gan ildio dim ond un gôl mewn chwe gêm – gyda rhediad di-guro’r tîm cenedlaethol yn ymestyn i 11 gêm gystadleuol, record i Gymru!

Bydd Cymru y nawr yn wynebu rhai o fawrion Ewrop yng Nghynghrair y Cenhedloedd gyda’r tîm hefyd un cam yn nes at gemau ail-gyfle am le yng Nghwpan y Byd 2022.

 

 

Cymru 3-1 Y Ffindir

Fe aeth Y Ffindir lawr i 10 dyn wedi 12 munud o’r gêm, Jere Uronen yn derbyn cerdyn coch am drosedd ar Harry Wilson gyda Cymru yn manteisio o’r dyn ychwanegol gyda chwarae ymosodol lawr yr esgyll.

Sgoriodd Harry Wilson y gyntaf i Gymru, chwarae da gan Gareth Bale i ganfod chwaraewr canol cae Caerdydd iddo rwydo heibio Joronen wedi 29 munud – y gôl gyntaf i Gymru sgorio yn yr hanner cyntaf yn eu hymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd 2020.

Sgoriodd Dan James yr ail eiliadau wedi’r egwyl, ac am ffordd i sgorio! Ergyd nerthol o du allan i’r cwrt cosbi yn dyblu’r fantais i Gymru.

Llwyddodd Pukki daro un yn ôl i’r ymwelwyr ond llwyddodd yr eilydd, Kieffer Moore i dawelu unrhyw ofnau wrth sgorio’r drydedd.

Gwaith da gan Dan James ar yr asgell chwith a chroesiad perffaith er mwyn i Moore benio ei gôl gyntaf gartref i Gymru.

Ymateb Robert Page, rheolwr dros dro Cymru:
‘Now we get to compete against the best teams in Europe and potentially get a play off place for the World Cup’

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?