Colli oedd hanes Cymru yn eu gêm gystadleuol olaf cyn Cwpan y Byd yn Qatar, yn erbyn Gwlad Pwyl yng Nghaerdydd nos Sul.
Roedd yr awyrgylch yn danllyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd o’r dechrau, gan mai dyma oedd y cyfle olaf i nifer o gefnogwyr weld y tîm yn chwarae cyn Cwpan y Byd.
Er i’r ddau dîm ymddangos cyfnodau addawol yn ystod yr hanner cyntaf, fe orffennodd yr hanner yn ddi-sgôr.
Fe ddaeth unig gôl y gêm yn dilyn cyffyrddiad gan Robert Lewandowski o ymyl y cwrt cosbi i gyfeiriad Karol Swiderski a lwyddodd i wyro’r bêl heibio Wayne Hennessey ar ôl 57 munud.
Roedd blinder yn amlwg yn effeithio ar chwaraewyr Cymru cyn diwedd yr ail hanner, ond wedi dweud hyn fe barhaodd y tîm i bwyso am gôl hyd nes y diwedd, gyda Gareth Bale bron a sicrhau pwynt i Gymru gyda pheniad yn y cwrt cosbi yn ystod amser ychwanegol.
Roedd y noson yn amlwg yn un rhwystredig i Rob Page, gan nad oedd y chwaraewyr ar eu gorau.
Fe orffennodd y gêm yn 0-1 i Wlad Pwyl wedi bron i saith munud o amser ychwanegol.
Gan nad yw Cymru wedi ennill mewn wyth gêm o’r bron yng Nghynghrair y Cenhedloedd, maent yn disgyn o haen uchaf y gynghrair.