Mae gobeithion Cymru o gyrraedd Euro 2024 yn yr Almaen wedi dioddef ergyd drom ar ôl colli gartref 2-4 yn erbyn un o dimau gwannaf y gystadleuaeth, Armenia.
Ar ôl cipio pedwar pwynt yn eu dwy gêm gyntaf roedd pethau’n edrych yn addawol i Gymru ond bydd y gêm nos Wener yn rhoi gwedd newydd ar bethau.
Ac mae Cymru yn wynebu rhagor o boen wrth iddyn nhw baratoi i hedfan i wynebu Twrci yn Samsun ddydd Llun.
Dyma’r tro cyntaf i Gymru golli gêm ragbrofol ym Mhencampwriaeth Ewrop yn Stadiwm Dinas Caerdydd ers 2010.
Ond ni chafodd Armenia unrhyw drafferth o gwbl eu herio yno gyda phedair gôl o fewn 75 munud.
Bydd cwestiynau mawr ynglŷn â thactegau’r hyfforddwr Rob Page a hefyd amheuaeth a oes gobaith gan Gymru gyrraedd pencampwriaethau mawr yn sgil ymddeoliad nifer o’u sêr mwyaf.
Cerdyn coch
Daeth dechrau addawol iawn i Gymru wrth i Dan James sgorio ei chweched gôl dros ei genedl ar ôl 10 munud yn unig. Ond yna fe aeth popeth o’i le.
Fe aeth pethau o chwith naw munud yn ddiweddarach wrth i Armenia dorri drwy rengoedd y Cymry gan adael i Lucas Zelarayan fwrw’r bêl i gefn y rhwyd.
Daeth ail gôl chwarter awr cyn hanner amser drwy Grant-Leon Mamedova wedi i Joe Rodon fethu a chlirio’r bêl.
Ar ôl hanner amser roedd Cymru i weld yn adeiladu momentwm ond yna fe fachodd Grant-Leon Mamedova ail gôl ar 65 munud gydag ergyd heibio i Danny Ward.
Sgoriodd Cymru ail gôl drwy Harry Wilson ac am eiliad roedd yn edrych fel pe bai Cymru ar fin llusgo eu hunain yn ôl i mewn i’r gêm.
Ond dri munud yn ddiweddarach fe darodd Zelarayán yr hoelen olaf yn yr arch gyda’i ail gôl.
Fe aeth pethau o ddrwg i waeth wedi 77 munud wrth i Kieffer Moore dderbyn cerdyn coch.
Roedd Armenia 71 o lefydd yn is na Chymru ar gynghrair safleoedd y byd FIFA cyn y gêm nos Wener ac fe fydd y canlyniad yn arwain llawer i ofyn os yw’r canlyniad yn arwydd fod dyddiau du’r gamp yn ôl.