Bydd Merched Cymru yn croesawu Norwy i Stadiwm Dinas Caerdydd prynhawn Mercher, 27 Hydref ar gyfer eu gêm ragbrofol Ewro 2020.
Bydd gêm gyfartal i dîm Jayne Ludlow yn gam mawr tuag at sicrhau lle yng ngemau ail gyfle am le ym mhencampwriaeth Ewro 2022, gyda thîm Merched Cymru yn gobeithio sicrhau lle mewn pencampwriaeth ryngwladol am y tro cyntaf yn eu hanes.
Os yw Norwy yn ennill y gêm bydd y tîm yn ennill grŵp C ac yn camu ymlaen i’r bencampwriaeth.
Mae Cymru yn yr ail safle yn y grŵp rhagbrofol gydag 11 pwynt, pedwar pwynt tu ôl i Norwy sydd ar frig y grŵp – gyda Chymru yn colli dim ond un o’u chwe gêm yn yr ymgyrch hyd yn hyn.
Fe ddoth y golled honno yn erbyn Norwy yn Oslo mis diwethaf, Guro Reiten yn sgorio unig gôl y gêm.
Natasha Harding: ‘Siawns i greu hanes’