Naw gêm i fynd yn nhymor Uwch Gynghrair Cymru ac mae’r Seintiau Newydd a Chei Connah yn hafal ar bwyntiau yn y ras am y bencampwriaeth.
CHWECH UCHAF
Caernarfon (6ed) v Cei Connah (2il) | Nos Fawrth – 19:45 (Yn Fyw Arlein)
Bydd Andy Morrison yn ysu am ymateb gan ei chwaraewyr wedi i Gei Connah golli gartref ddydd Sadwrn am y tro cyntaf ers dwy flynedd gan ildio eu lle ar frig y tabl (Cei 0-2 Pen).
Roedd ‘na siom i Gaernarfon dros y penwythnos hefyd wrth i’r Cofis ildio wedi 92 o funudau i golli 0-1 gartref yn erbyn Y Barri gan fethu cyfle i gau’r bwlch ar Y Bala yn y ras i gyrraedd Ewrop.
Dyw Caernarfon ond wedi ennill un o’u naw gêm flaenorol yn erbyn Cei Connah, gyda’r Nomadiaid yn fuddugol yn y bedair gêm ddiwethaf rhwng y timau.
Canlyniadau tymor yma: Cei Connah 3-1 Caernarfon, Caernarfon 1-2 Cei Connah
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ✅✅✅❌❌
Cei Connah: ➖✅✅✅❌
Pen-y-bont (5ed) v Y Bala (3ydd) | Nos Fawrth – 19:45
Roedd hi’n ganlyniad ardderchog i Ben-y-bont yng Nglannau Dyfrdwy ddydd Sadwrn, a byddai triphwynt arall nos Fawrth yn gadael bechgyn Rhys Griffiths un pwynt y tu ôl i’r Bala yn y ras am y trydydd safle.
Ond dyw’r ystadegau benben ddim yn edrych yn rhy ffafriol i Ben-y-bont gan mae’r Bala sydd wedi ennill pob un o’r bedair gêm gynghrair flaenorol rhwng y timau gan sgorio 19 o goliau (cyfartaledd o 4.75 gôl y gêm).
Mae’r Bala wedi colli pedair o’u pum gêm ddiwethaf, a byddai methu cyrraedd Ewrop yn siom aruthrol i dîm Colin Caton wedi i’r Bala dreulio rhan helaeth o’r tymor ymysg y ceffylau blaen.
Canlyniadau tymor yma: Pen-y-bont 1-5 Y Bala, Y Bala 4-1 Pen-y-bont
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ✅❌➖✅✅
Y Bala: ❌❌❌✅❌
Y Barri (4ydd) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Fawrth – 19:45
Bydd y ddau dîm yn llawn hyder ar ôl canlyniadau cadarnhaol dros y penwythnos – YSN yn curo’r Bala i gamu i frig y tabl, a’r Barri’n sgorio’n hwyr i godi o fewn triphwynt i’r safleoedd Ewropeaidd.
Mae’r ddau dîm wedi dechrau ail ran y tymor mewn hwyliau da gyda’r Seintiau Newydd wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf, tra bo’r Barri wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf.
Dyw’r Seintiau heb golli oddi cartref yn erbyn Y Barri ers 20 mlynedd gan ennill eu saith gêm ddiwethaf ar Barc Jenner.
Canlyniadau tymor yma: Y Barri 0-3 Y Seintiau Newydd, Y Seintiau Newydd 2-1 Y Barri
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ✅❌✅✅✅
Y Seintiau Newydd: ❌✅✅✅✅
CHWECH ISAF
Hwlffordd (7fed) v Aberystwyth (9fed) | Nos Fawrth – 19:45
Ar ôl colli eu gemau cyntaf wedi’r hollt drwy goliau hwyr, bydd Hwlffordd ac Aberystwyth yn anelu am fuddugoliaeth yn y frwydr am y 7fed safle.
Ildiodd Aberystwyth wedi 92 munud i golli 2-1 gartref yn erbyn Y Drenewydd nos Wener, cyn i Hwlffordd ildio wedi 92 munud yn erbyn y Derwyddon i golli 2-1 ar y Graig ddydd Sadwrn.
Does dim un o’r 10 gêm ddiwethaf rhwng y timau yma wedi gorffen yn gyfartal (Hwlffordd yn ennill 4, Aberystwyth yn ennill 6).
Canlyniadau tymor yma: Hwlffordd 2-0 Aberystwyth, Aberystwyth 2-1 Hwlffordd
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ✅❌✅❌❌
Aberystwyth: ❌✅➖✅❌
Met Caerdydd (11eg) v Y Drenewydd (8fed) | Nos Fawrth – 19:45
Ar ôl curo Aberystwyth nos Wener, dyw’r Drenewydd ond chwe phwynt y tu ôl i Hwlffordd yn y ras i orffen yn 7fed er mwyn sicrhau lle yn y gemau ail gyfle.
Mae Met Caerdydd ar rediad o 10 gêm heb fuddugoliaeth ac wedi syrthio i’r ddau isaf yn dilyn eu cyfnod gwaethaf yn y gynghrair ers eu dyrchafiad yn 2016.
Ond mae’r fantais seicolegol gan y myfyrwyr, gan mae’r tîm sy’n chwarae gartref sydd wedi ennill pob un o’r naw gêm ddiwethaf rhwng y clybiau yma (ers i Met ennill 0-1 ar Barc Latham yn Rhagfyr 2016).
Canlyniadau tymor yma: Met Caerdydd 2-1 Y Drenewydd, Y Drenewydd 4-1 Met Caerdydd
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ❌➖❌❌❌
Y Drenewydd: ✅❌❌❌✅
Y Fflint (10fed) v Derwyddon Cefn (12fed) | Nos Fawrth – 19:45
Mae hi wedi bod yn dymor hir i’r ddau glwb o’r gogledd ddwyrain hyd yma, ond bydd Y Fflint a’r Derwyddon yn awyddus i adeiladu ar eu buddugoliaethau dros y penwythnos gan geisio codi’r safon yn ail ran y tymor.
Y Fflint yw’r unig glwb sydd heb gael dim un gêm gyfartal y tymor yma, a dyw Cefn heb ennill oddi cartref ers curo’r Fflint ar Gae-y-Castell ym mis Rhagfyr.
Canlyniadau tymor yma: Derwyddon Cefn 1-2 Y Fflint, Y Fflint 1-2 Derwyddon Cefn
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌✅❌❌✅
Derwyddon Cefn: ❌❌➖❌✅