S4C

Navigation

Bydd rhaid i record 100% Y Seintiau Newydd neu’r Fflint ddod i ben nos Fawrth wrth i’r ddau uchaf baratoi i fynd benben yn Neuadd y Parc, ond a’i cewri Croesoswallt yntau mintai’r Fflint fydd ar y copa ar y chwiban olaf.

Bydd camerâu Sgorio yn fyw ar Barc Latham ar gyfer y gêm rhwng Y Drenewydd a Derwyddon Cefn, gyda’r gêm yn fyw ar-lein (Facebook a Youtube Sgorio) am 7.45

 

Nos Fawrth, 31 Awst

Cei Connah v Caernarfon | Nos Fawrth – 19:45

Roedd Andy Morrison yn ddyn rhwystredig wedi i Gei Connah orfod rhannu’r pwyntiau gyda Pen-y-bont nos Sadwrn gan ddod a record berffaith y pencampwyr i ben.

Roedd ‘na siom yng Nghaernarfon dros y penwythnos hefyd, gan i’r Cofis golli gartref yn erbyn Y Drenewydd o ddwy gôl i ddim yn dilyn cerdyn coch Steve Evans yn yr hanner cyntaf, gan syrthio o’r 4ydd i’r 9fed safle.

Bydd hi’n noson galed i Gaernarfon wrth ystyried bod y Nomadiaid wedi ennill eu chwe gêm ddiwethaf yn erbyn y Canerîs gan sgorio 23 o goliau (3.8 gôl y gêm).

 

Met Caerdydd v Pen-y-bont | Nos Fawrth – 19:45

Yng Nghampws Cyncoed bydd Met Caerdydd a Phen-y-bont yn anelu am eu triphwynt cyntaf o’r tymor newydd.

Wedi crasfa o 5-1 yn erbyn Y Fflint ar y penwythnos agoriadol mae’r myfyrwyr wedi cael dwy gêm ddi-sgôr yn erbyn Hwlffordd a’r Bala.

Dyw Pen-y-bont chwaith heb ennill yn eu tair gêm hyd yma, ond mae tîm Rhys Griffiths wedi pigo pwynt oddi ar tri o’r pedwar clwb chwaraeodd yn Ewrop dros yr haf (Bala, Dre, Cei).

Ar ôl methu ac ennill dim un o’u naw gêm gyntaf yn erbyn Met Caerdydd, mae Pen-y-bont wedi ennill eu tair ddiwethaf yn erbyn y myfyrwyr heb ildio gôl.

 

Y Barri v Hwlffordd | Nos Fawrth – 19:45

Mae’r Barri wedi codi i’r 4ydd safle yn dilyn eu buddugoliaeth ar y Graig brynhawn Sadwrn (Cefn 1-4 Barr).

Mae Hwlffordd ar y llaw arall, wedi llithro i’r ddau isaf, ac yn dal i aros am eu gôl gyntaf o’r tymor ar ôl colli yn erbyn Caernarfon a’r Seintiau Newydd gyda gêm ddi-sgôr yn erbyn Met Caerdydd yn y canol.

Dyw’r Adar Gleision heb ennill ar Barc Jenner ers curo’r Barri yn yr ail haen ‘nôl yn Chwefror 2012.

 

Y Drenewydd v Derwyddon Cefn | Nos Fawrth – 19:45

Bydd Y Drenewydd yn ffefrynnau clir nos Fawrth gan bod tîm Chris Hughes wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn y Derwyddon, ac heb golli yn erbyn hogiau’r Graig yn eu 12 gêm ddiwethaf.

Sgoriodd y Robiniaid 20 gôl mewn pedair gêm yn erbyn criw Cefn y tymor diwethaf, ac mae’r Derwyddon druan wedi dechrau’r tymor newydd fel y gorffennon nhw’r tymor diwethaf gan golli eu tair gêm agoriadol.

Mae’r Derwyddon ar rediad o 13 colled yn olynol ers mis Ebrill, ac mae’n anodd gweld tîm Niall McGuinness yn osgoi blwyddyn hir arall tua’r gwaelodion.

 

Y Seintiau Newydd v Y Fflint | Nos Fawrth – 19:45

Mae record berffaith y clybiau yma’n parhau wedi i’r ddau dîm grafu buddugoliaethau o 1-0 dros y penwythnos.

Jordan Williams sgoriodd unig gôl y Seintiau yn Hwlffordd gyda pheniad o gic gornel – hynny’n golygu bod saith o 10 gôl YSN wedi dod o giciau gosod y tymor yma.

A gôl o gic gornel gafodd Y Fflint hefyd, ond honno yn un tipyn mwy dadleuol gan i Alex Jones lawio’r bêl i gefn y rhwyd wedi 94 munud yn erbyn Aberystwyth.

Enillodd Y Seintiau Newydd eu dwy gêm yn erbyn Y Fflint yn hynod gyfforddus y tymor diwethaf (YSN 10-0 FFL, FFL 0-6 YSN).

Ond tybed pa mor allweddol bydd presenoldeb blaenwr newydd Y Fflint a phrif sgoriwr y gynghrair, Michael Wilde (5 gôl).

Sgoriodd Wilde hatric ar ei ymweliad diwethaf i Neuadd y Parc gan ysbrydoli Cei Connah i guro’r Seintiau yn y ras am y bencampwriaeth am yr ail dymor yn olynol.

 

Aberystwyth v Y Bala | Nos Fawrth – 20:00

Dyw’r Bala heb gael y dechrau gorau i’r tymor wedi tair gêm gyfartal yn olynol yn erbyn Pen-y-bont, Y Barri a Met Caerdydd.

Ar ôl trechu’r Barri ar y penwythnos agoriadol mae Aberystwyth wedi colli 1-0 yn erbyn Cei Connah a’r Fflint.

Mae’r Bala wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth felly bydd tîm Colin Caton yn hyderus o sicrhau eu triphwynt cyntaf o’r tymor newydd.

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau i’w gweld ar ein gwefannau cymdeithasol.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?