Mae Cei Connah wedi camu i’r copa, ond mae tîm Andy Morrison yn wynebu gêm galed ym Mhen-y-bont brynhawn Sadwrn, tra bydd Y Seintiau’n herio Hwlffordd yn Nôl y Bont yn fyw ar Sgorio.
Dydd Sadwrn, 13 Mawrth
Derwyddon Cefn (12fed) v Y Bala (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Derwyddon wedi llithro yn ôl i waelod tabl y JD Cymru Premier yn dilyn eu trydedd colled yn olynol, gartref yn erbyn Y Drenewydd nos Fawrth (Cefn 2-4 Dre).
Ar ben hynny, mae’r clwb yn chwilio am reolwr newydd yn dilyn ymddiswyddiad Bruno Lopes, sydd wedi bod yn absennol ers ailddechrau’r tymor gan iddo hedfan gartref i Bortiwgal a methu dychwelyd i Gymru oherwydd canllawiau Covid.
Sgoriodd Nathan Peate wedi 91 munud yn y gêm gyfatebol i gipio’r triphwynt i’r Bala (2-1), ond dyw criw Colin Caton ond wedi ennill un o’u pum gêm ddiwethaf ar y Graig.
Er hynny, Y Bala yw’r unig glwb sydd heb golli oddi cartref yn UG Cymru y tymor hwn, ac mae’r clwb yn gobeithio parhau â’u rhediad campus yn dilyn 13 gêm heb golli.
Record cynghrair diweddar:
Derwyddon Cefn: ✅✅❌❌❌
Y Bala: ➖➖✅✅➖
Pen-y-bont (4ydd) v Cei Connah (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30
Dringodd Cei Connah i’r copa yn dilyn eu buddugoliaeth yn narbi Sir y Fflint nos Fawrth, ac yno fydd y Nomadiaid eisiau aros ar ôl ennill naw gêm yn olynol am y tro cyntaf erioed yn Uwch Gynghrair Cymru.
Ond bydd Pen-y-bont ddim yn dîm hawdd i’w trechu gan i hogiau Rhys Griffiths gamu i’r 4ydd safle yng nghanol wythnos ar ôl curo’r Barri ar Barc Jenner.
Mae’r ddau dîm wedi gweld cynnydd sylweddol o’u canlyniadau’r tymor diwethaf – mae gan Gei Connah 10 pwynt yn fwy eleni nac oedd ganddyn nhw ar yr adeg yma’r tymor diwethaf (wedi 18 gêm), ac mae gan Pen-y-bont 17 pwynt yn fwy na llynedd.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ✅✅❌❌✅
Cei Connah: ✅✅✅✅✅
Y Barri (5ed) v Aberystwyth (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Wedi pum buddugoliaeth o’u chwe gêm agoriadol roedd Y Barri ymysg y ceffylau blaen ar ddechrau’r tymor, ond ar ôl ennill dim ond tair mewn 12 gêm ers hynny, mae’r Dreigiau wedi syrthio i’r 5ed safle ac mewn perygl o golli eu lle yn y Chwech Uchaf.
Mae’r saib yn y tymor wedi gwneud lles aruthrol i Aberystwyth oedd ar waelod y domen yn dilyn rhediad o chwe cholled yn olynol, ond bellach mae’r Gwyrdd a’r Duon wedi codi o safleoedd y cwymp ar ôl selio pedwar pwynt o’u dwy gêm ddiwethaf diolch i goliau hwyr wedi 90 munud.
Mae gan Y Barri record anhygoel yn erbyn Aberystwyth – tydyn nhw heb golli dim un o’u naw gêm yn erbyn Aber ers eu dyrchafiad i’r uwch gynghrair yn 2017, gan ennill pob un o’u saith gêm ddiwethaf yn erbyn criw Ceredigion.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌❌✅✅❌
Aberystwyth: ❌❌❌➖✅
Y Drenewydd (8fed) v Met Caerdydd (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Bydd y ddau dîm yn gobeithio cadw eu breuddwydion o gyrraedd y Chwech Uchaf yn fyw ddydd Sadwrn, ond teg dweud y byddai colled i’r naill dîm neu’r llall yn eu tynnu allan o’r ras.
Mae’r Drenewydd wedi cael adfywiad ers ailddechrau’r tymor gan godi o’r ddau isaf i’r 9fed safle yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Pen-y-bont a Derwyddon Cefn.
Mae Met Caerdydd, ar y llaw arall, wedi colli pedair gêm yn olynol, ac yn anffodus iddyn nhw, y tîm sy’n chwarae gartref sydd wedi ennill pob un o’r wyth gêm ddiwethaf rhwng y clybiau yma (ers i Met ennill 0-1 ar Barc Latham yn Rhagfyr 2016).
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ❌➖✅❌✅
Met Caerdydd: ➖❌❌❌❌
Y Fflint (11eg) v Caernarfon (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Fflint wedi syrthio ‘nôl i’r ddau isaf ar ôl colli eu dwy gêm ddiwethaf o gôl i ddim, gartref yn erbyn Pen-y-bont a Chei Connah.
Mae Caernarfon ar rediad o bum gêm heb golli, ond bydd Huw Griffiths yn siomedig bod ei dîm wedi ildio wedi 96 munud yn erbyn Aberystwyth brynhawn Sadwrn gan gwympo i’r hanner isaf ar wahaniaeth goliau.
Dyw’r Cofis heb golli dim un o’u wyth gêm ddiwethaf yn erbyn Y Fflint, gan ennill saith o’r gemau rheiny.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌❌✅❌❌
Caernarfon: ✅✅✅➖➖
Hwlffordd (6ed) v Y Seintiau Newydd (2il) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw ar S4C)
Wedi bron i 20 blynedd gyda’r clwb a bron i bedair blynedd wrth y llyw, cafodd Scott Ruscoe ei ddi-swyddo gan y Seintiau y penwythnos diwethaf, a Chris Seargeant fydd yn cymryd ar awennau dros dro.
Ac mi fydd yna ddisgwyliadau uchel ar Seargeant yn ei gêm gyntaf fel rheolwr, gan bod Y Seintiau Newydd wedi ennill eu wyth gêm ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd, ac heb golli dim un o’u 19 gêm ddiwethaf yn erbyn yr Adar Gleision ers 2004.
Ond mae dynion y de orllewin yn cael tymor canmoladwy ac yn brwydro i orffen yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers gorffen yn 4ydd yn 2004/05.
Mae posib y bydd cyn-chwaraewr Cymru, Jazz Richards yn dechrau ei gêm gyntaf i Hwlffordd ddydd Sadwrn yn eu gêm gartref olaf cyn yr hollt.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ➖❌✅✅❌
Y Seintiau Newydd: ✅❌✅✅➖
Bydd uchafbwyntiau holl gemau’r penwythnos i’w gweld ar Sgorio nos Lun am 17:30.