Gemau Ragbrofol Ewro 2025 (Dan 21) | Dydd iau am 17.50
PÊL-DROED BYW: Cymru Dan 21 v Gwlad yr Iâ Dan 21
Gemau Ragbrofol Ewro 2025 (Dan 21) | Dydd iau, 16 Tachwedd am 17.50
Cymru mewn grŵp anodd, gyda’r tair gêm cynta oddi cartref, ond wedi llwyddo i gael dechrau di-guro yn y gemau yna – dechrau gyda gêm gyfartal oddi cartre yn erbyn y prif ddetholion (Denmarc), buddugoliaeth yn Lithwania, ac yna gôl hwyr iawn yr eilydd Cian Ashford yn cipio pwynt yn Tsiecia mis Hydref.
Mae’n edrych yn debyg bod cael Rubin Colwill nôl yn y tîm wedi bod yn dipyn o hwb iddynt wrth iddo sgorio’r ddwy gôl yn erbyn Denmarc yn eu gêm agoriadol. Luke Harris hefyd nôl yng ngharfan Matty Jones ar ôl cael amser gyda phrif garfan Rob Page, ac yn sgorio’r gôl agoriadol yn erbyn Lithwania.
Gwlad yr Iâ wedi dechrau eu hymgyrch yn gryf gyda record 100% yn eu dwy gêm, ac mae nhw ar frig y grwp gyda gêm wrth gefn. Cymru’n mynd i frig y grwp gyda buddugoliaeth yn erbyn Gwlad yr Iâ nos Iau. Gwlad yr Iâ yn mynd 4pt yn glir ar y brig os ydyn nhw’n enill.